Mae'r Gymdeithas Hanes yn griw bywiog a gweithgar sy'n ymdrechu i ddathlu a chofnodi amryw o agweddau ein hanes Cristnogol gyfoethog.
Prif weithgaredd y Gymdeithas yw'r ddarlith flynyddol a gynhelir yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb. Bob blwyddyn fe gyhoeddir Y Cofiadur hefyd, sydd yn gasgliad o erthyglau hanes amrywiol.
Hanes y Gymdeithas Hanes
Yn Undeb Pwllheli ym 1920, penderfynwyd ffurfio Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr. Er i benderfyniad gael ei wneud cyn hynny, ym 1909, ni ddaeth dim o’r bwriad hwnnw. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gymdeithas ar 31 Mai 1922 yn ystod cyfarfodydd Undeb y Jiwbilî yng Nghaerfyrddin. Amcan y gymdeithas, a dyfynnu o’r cofnodion, yw: ‘Hyrwyddo ymchwiliad i hanes dechreuad a chynnydd Eglwysi a Sefydliadau Annibynnol Cymreig.’
Cafwyd anerchiad gan Thomas Shankland, llyfrgellydd Coleg y Gogledd ym Mangor ar ‘Anghydffurfwyr ac Ymneilltuwyr cyntaf Cymru’ a chafodd ei gyhoeddi yn rhifyn cyntaf Y Cofiadur, cylchgrawn y Gymdeithas ym 1923. Mae’r Cofiadur yn dal i gael ei gyhoeddi, ac mae modd lawrlwytho rhifynau diweddar ar waelod y dudalen.
Podlediadau
Dyma gyfres 'Hon yw fy Stori' sy'n cynnwys casgliad o sgyrsiau diddorol gan unigolion yn adrodd hanesyn nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano. Os hoffech gynnig stori a fyddai'n addas i'r gyfres, anfonwch e-bost atom.
Diogelu
Mae’r Gymdeithas Hanes yn annog yr eglwysi i ddiogelu cofnodion a dogfennau, yn arbennig felly pan fo achosion yn dod i ben, gan eu trosglwyddo i ofal y Llyfrgell Genedlaethol neu’r archifdy lleol.
Anerchiadau
Mae nifer o anerchiadau, rhaglenni dogfen a darlithoedd wedi ei storio mewn playlist ar ein sianel YouTube.