Profiad hyfryd oedd gweld capel Cana, ger Bancyfelin yn llawn hyd yr ymylon nos Sul 17 Medi 2023 mewn noson arbennig i ddathlu 200 mlwyddiant yr Achos ac i ddathlu ailagor y capel wedi ychydig o waith adnewyddu diweddar.

200 mlwyddiant

Agorwyd drysau Cana yn 1821 yn dilyn aberth ac ymdrechion nifer o ffyddloniaid yr ardal i godi capel a fyddai’n gartref i achos yr Annibynwyr a sefydlwyd yn 1820. 

Ymlwybrodd pobl yn dawel i Lwynderw, cartref nepell o safle presennol Cana, mor bell yn ôl â 1815 pan fyddai cyrddau gweddi ac ysgol Sul yn cael eu cynnal ar amryw o aelwydydd yr ardal, cyn bod sôn am sefydlu achos. Bu pregethwyr cynorthwyol yn ymweld â’r aelwydydd yn gyson nes dechrau’r gwaith o godi capel Cana, ar ddarn o dir lle teflid sbwriel a gwastraff yr ardal. Bu cyfeillion yn cyrchu cerrig ychwanegol o’r cwar gyda cheffyl a chart er mwyn gosod sylfaen i’r capel. Wedi cwblhau’r gwaith o godi’r capel, corfforwyd eglwys yno gan David Peter y flwyddyn ganlynol.

Pan adeiladwyd Cana, dewis y bobl oedd gosod ffenestri clir yn yr adeilad fel bod pawb o’r tu allan yn gallu gweld i mewn iddo, ond yn bwysicach fyth, fel bod y sawl sy’n cwrdd y tu mewn i’r adeilad yn gallu gweld allan i’r byd. Er i’r ffyddloniaid gwrdd y tu mewn i Gana ers dwy ganrif, nid gweledigaeth fewnblyg fu gan yr eglwys ar hyd blynyddoedd hir ei hanes. Yn hytrach, gweledigaeth fwy eang o lawer, ac awydd i fod yn offeryn yn llaw Duw i dystiolaethu i’r fro gyfan ac i’r byd. Wrth ddiolch am ddwy ganrif o dystiolaeth, diolchwn fod yr un weledigaeth yn dal i feddiannu calonnau aelodau Cana heddiw. Mae cymdeithas glòs a chynnes o hyd ac awydd ymysg yr aelodau i dystio i Iesu hyd eithaf eu gallu.

Cana, mi gana

Bu’r dathliad nos Sul 17 Medi yn gyfuniad o ganu cynulleidfaol dan arweiniad brwdfrydig Meinir Richards, Llanddarog ac i gyfeiliant band capel y Priordy. Cafwyd cyfraniadau hynod o werthfawr i’r noson gan Gôr Bois y felin, Bancyfelin a Chôr Seingar, Caerfyrddin ynghyd â’r tenor Dafydd Wyn Jones, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, a fu hefyd yn canu deuawd gydag Elin Wyn James. Llywydd y noson oedd John Thomas, Y Bontfaen, un o deulu Derllys sydd wedi bod yn ffyddlon i’r achos yng Nghana ers cenedlaethau. Mae John a’i briod Carol yn teithio’n gyson ar y Sul o’r Bontfaen i addoli yng Nghana. Derllys gyda llaw oedd cartref Madam Bridget Bevan a fu’n cefnogi Gruffydd Jones i sefydlu ysgolion cylchynol.

Do, bu’n noson a fydd yn aros yn y cof, ac yn ddathliad teilwng o ddwy ganrif o dystiolaeth i’r Arglwydd Iesu Grist yn y fro. Noson i godi’r ysbryd ac i’n hannog i ddal ati gyda’n gwaith. Gweddïwn y bydd Cana yn parhau i belydru goleuni Crist am flynyddoedd lawer eto.

Beti-Wyn James

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.