Myfyrdod y Llywydd, Owain Llŷr Evans
Mae’r Ynysoedd yn y newyddion. Olew; archwilio am olew; sylwadau gan yr Arlywydd Javir Mileu; Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol Israel Itamar Ben-Gvir yn tywallt gwenwyn i’r pair; ac wrth gwrs, roedd gan Mr Trump sylw i’w rhannu ar y mater. Hen ddadl mewn dillad newydd: pwy biau’r hawl ar y Malfinas. Heddiw, Diwrnod Rhyngwladol Heddwch, dwi am i chi ddod ‘n ôl ‘da fi i 1982. I Gadeirlan Sant Paul Llundain. Gwasanaeth i ddathlu diwedd rhyfel y Malfinas.
Bu tensiwn ymhlyg yn y trefniadau: a ddylid cyfeirio at filwyr yr Ariannin a fu farw, neu beidio? A’i addas neu anaddas oedd canu God Save the Queen? Bu tensiwn hefyd, yn y gwasanaeth ei hun. Yn yr eglwys, ‘roedd seddau wedi eu cadw i wragedd ifanc a phlant bach. Ar ddechrau’r gwasanaeth, roedd disgwyl i’r gynulleidfa sefyll wrth i’r pwysigion - un ac oll - orymdeithio i mewn i’r eglwys, yn palmantu’r ffordd i’r Iron Lady ei hun. Gwrthododd y grŵp bach yma o famau a phlant sefyll iddi. Daeth cadfridog at y sarjant a oedd â chyfrifoldeb amdanynt y diwrnod hwnnw, gan ddweud: You there! Who are these people? Make them stand up! Meddai’r Sarjant yn dawel ddewr: They are Royal Navy widows and orphans sir. You make them stand! Diflannodd y cadfridog wrth gwrs. Roedd y gweddwon hynny wedi penderfynu fod marwolaeth ei gwyr a thadau eu plant yn gyfrifoldeb ar Margaret Thatcher a Llywodraeth San Steffan ar y pryd. Rhyngddynt a'i gilydd penderfynwyd nad oedd yr un ohonynt yn mynd i sefyll.
Ie, 1982, ac yn 2026 mae rhyfela a sôn am ryfela yn rhan annatod o newyddion y dydd bob dydd. Ledled byd, mae rhiant, cymar a phlentyn yn ofni’r gwaethaf; arswydo rhag yr ymweliad hwnnw - dau swyddog yn sefyll wrth y drws. Next of Kin have been informed, a bywyd un teulu arall yn deilchion.
Mae pobl ifanc yn ymuno ar fyddin gan wybod bod marw ar faes y gad yn bosibilrwydd. Er hynny, rhaid dweud, o bob sinigiaeth yn y ein byd modern, y fwyaf creulon yw hon sydd mor amlwg yn yr hysbysebion rheini i ddenu pobl ifanc i’r lluoedd arfog. Hysbysebion sy’n cuddio erchyllterau rhyfel o dan yr awgrym mai anturiaeth ddi-ben-draw yw’r bywyd milwrol - ffordd ragorol o weld y byd a gwneud ffrindiau. Mae’r lluoedd arfog yn gwybod o hir brofiad sut mae cael pobl ifanc ofnus i ymladd. Yn anffodus ni wyddant, nag unrhyw lywodraeth, na neb arall, yn un man sut mae lleddfu dolur yr hir aros am newyddion, yr arswyd cyson, dwfn rhag newyddion drwg.
Nid oes defensive action, nid oes flakjacket i amddiffyn y galon.