Dyma newyddion cyffrous am sefydlu gofalaeth newydd yng Ngheredigion

Llawenydd o’r mwyaf i aelodau pedair eglwys Gofalaeth Newydd Gogledd Ceredigion, sef eglwysi Annibynnol Seion, Aberystwyth a Bethel, Tal-y-bont, ac eglwysi’r Bedyddwyr, Horeb, Penrhyn-coch a Bethel, Aberystwyth oedd cael croesawu a sefydlu’r Parchg Geraint Morse yn weinidog i’r Arglwydd Iesu Grist ar yr ofalaeth, ddydd Sadwrn 7 Tachwedd. Dan lywyddiaeth y Parchg Judith Morris, croesawyd tyrfa deilwng i Fethel, Tal-y-bont i dystio i’r achlysur arbennig hwn. 

Addoli, cyflwyno a sefydlu

Wedi canu emyn Titus Lewis ‘Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,’ cyflwynwyd y darlleniad (Effesiaid 2:1–10) gan Gruffudd Huw ac offrymwyd gweddi gan Betsan Siencyn. Cyfieithiad Arfon Jones o emyn Stuart Townend, sef ‘Mor fawr yw cariad Duw y Tad,’ a ganwyd cyn defod y Sefydlu a oedd yng ngofal y Parchg Simeon Baker, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru. 

Cyflwynwyd y Parchg Geraint Morse ar ran eglwysi’r gyn-ofalaeth, Croes-goch, Harmoni Pencaer a Berea gan Alun Thomas a thraddodwyd hanes sefydlu Gofalaeth Newydd Gogledd Ceredigion ynghyd â hanes yr alwad gan Phil Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Ofalaeth. Ef hefyd fu’n enau i’r croeso ar ran yr eglwysi. Derbyniodd y Parchg Geraint Morse yr alwad yn gadarnhaol ac yn rasol.

Offrymwyd yr Urdd Weddi gan y Parchg Peter Thomas wrth i’r Parchg Owain Llŷr Evans ac Elinor Wyn Reynolds, Llywydd ac Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr arddodi dwylo ar y Parchg Geraint Morse. Y Parchg Irfon C. Roberts estynnodd groeso ar ran Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion a Chyfundeb Annibynwyr Ceredigion. ‘Ti yw’r Un sy’n adnewyddu’ – emyn Dan Lynn James a ganwyd cyn i’r Parchg Andrew Lenny draddodi’r bregeth.

Testun y bregeth

Seiliwyd y bregeth ar yr adnod ‘Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.’ (2 Corinthiaid 5:19). Yng ngoleuni’r testun nodwyd tri pheth:

 

  • Yr hyn a wnaeth Duw – ‘Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia.’
  • Yr hyn na wnaeth Duw – ‘Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw!’
  • Yr hyn a wnawn ni – ‘Ac mae wedi rhoi i ni’r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.’

 

Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw pregethu’r efengyl – o dan weinidogaeth y Gair y daw dynion a merched i argyhoeddiad a ffydd. Rhaid cofio hefyd bod bywyd y Cristion yn bregeth huawdl. Dyhead Paul oedd i Gristnogion Philipi fyw bywydau mor brydferth nes eu bod yn oleuni i dynnu sylw pobl at Grist. Rhaid i ninnau yn yr un modd ‘ddisgleirio... fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd’ (Philipiaid 2:16). Cyn gorffen y bregeth cyfeiriwyd at eiriau Phil Edwards yng nghylchlythyr Vision Today, ‘AI could one day exceed human ability across many fields. No machine could replace God’s Word, the Holy Spirit’s guidance or a caring Christian community’.

A’r her? Beth a wêl pobl o’r tu fas o droi i mewn i Seion, Horeb, Bethel? Ai a caring Christian community – pobl sy’n byw gan ddangos Iesu? Mae teulu’r ffydd yn fwy nag unrhyw enwad – cymdeithas yr Ysbryd Glân yw’r eglwys. Ein braint yw arddel yr Arglwydd Iesu, rhodio yn ei ffyrdd a byw fel cenhadon y cymod.

Priodol iawn mai emyn Siôn Aled a ganwyd i orffen yr oedfa, ‘Drwy dy weision ddoe cyhoeddaist ar ein daear air y ne … er pob newid ’r un o hyd yw sail ein ffydd’. Falyri Jenkins fu’n gwasanaethu wrth yr organ a rhoddwyd y blodau gan Geraint Evans er cof am ei ddiweddar briod, Eirian Evans, ysgrifennydd cyntaf Pwyllgor yr Ofalaeth Newydd.

Cymdeithasu 

Hyfryd oedd y cyfle i gymdeithasu o amgylch y byrddau yn Neuadd Goffa Tal-y-bont wedi’r oedfa. Gwerthfawrogwyd yno gyfraniad cerddorol plant ysgol Sul Bethel, Tal-y-bont a chafwyd cyfle i gyflwyno englyn o waith y Parchg Peter M. Thomas i’r gweinidog newydd a thusw o flodau i Tinamaria Morse.

 

Eiddunwn o ddaioni – Iôn a’i nawdd

     Yn nyddiau’r caledi

  A chyffro’r hen, hen stori

  Yn nerth i’n cyflyru ni.

PMT

 

Rhiannon Davies 

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.