Myfyrdod gan gadeirydd y Rhwydwaith Heddwch, Parchg Guto Prys ap Gwynfor ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch 2026

Mae yna ddau air, ‘heddwch’ a ‘tangnefedd’ yn y Gymraeg sy’n cael eu defnyddio i gyfieithu’r gair Groeg ειρηνη (eirene) sydd yn y Testament Newydd. Gan fod gennym ddau air tueddwn gredu bod yna ryw wahaniaeth yn yr ystyr. Dywed rhai bod ‘heddwch’ yn golygu cyflwr cymdeithasol neu wleidyddol, a bod ‘tangnefedd’ yn golygu rhywbeth mwy mewnol a phersonol. Canlyniad y math yna o ddehongli yw dod i’r casgliad taw rhywbeth unigolyddol a phersonol yw’r hyn a ddywed Iesu yn ei neges chwyldroadol yn y Bregeth ar y Mynydd (Mathew 5:9): “Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.” Camddehongli yw hynny sy’n arwain at gamddealldwriaeth sy’n peryglu neges yr Efengyl.

Ym mhob man lle mae ‘tangnefedd’ a ‘heddwch’ yn ymddangos yn y Testament Newydd y gair ειρηνη sydd yn y gwreiddiol.

Y gair a ddefnyddir yn y gwynfyd pwerus hwn yw ειρηνοποιος (eirenopoios) sef, o’i gyfieithu yw ‘gwneuthurwr heddwch’, un sydd yn gweithredu heddwch. Mae’r camddehongli uchod yn gwneud Iesu i swnio fel petai yn ein hannog i ganolbwyntio ar ein cyflwr personol, mewnol. Mae’n siwr fod Iesu am i ni wneud hynny beth bynnag, ond nid dyna a ddywed yn y gwynfyd hwn.

Ceir cyfieithiad gwell yn Beibl.net o ran ystyr (yn bersonol rwy’n hoff iawn o’r ymadrodd ‘gwyn eu byd’ ac o’r gair ‘tangnefedd’): “Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw.”

Hyrwyddo heddwch rhwng pobol o wahanol genhedloedd a diwylliannau yw’n cyfrifoldeb fel disgyblion i Iesu, gwneud heddwch yn ein bywydau ein hunain yn ein perthynas â’n cymdogion a’n gelynion (carwch eich gelynion, medd Iesu) er mwyn i ni allu bod yn rhan effeithiol o ymdrech oesol plant Duw i hyrwyddo heddwch yn ein byd.

Yn ei lythyr at yr Effesiaid mae Paul yn pwysleisio taw dyma reswm yr ymgnawdoliad, y rheswm yng nghynllun Duw i Iesu ddod i’n plith, fe ddaeth er mwyn cymodi’r ddynoliaeth â’r Creawdwr, i achub y byd, a rhan o’r broses honno yw cymodi’r cenhedloedd â’i gilydd drwy’r Eglwys. 

“Oherwydd ef yw ein heddwch (ειρηνη) ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. . . .  Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun, er mwyn cymodi'r ddau â Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth. Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos. (Effesiaid 2:13-17).

Cymodi’r amrywiol genhedloedd a’r diwylliannau â’i gilydd ac â’r Creawdwr, cydweithio â Duw i ddwyn y ddynoliaeth newydd i fodolaeth yw cyfrifoldeb yr Eglwys, y corff, plant Duw! Dyma ran anhepgor o waith y groes, dyma broses achubaeth.

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Sign up to receive our bilingual monthly newsletter, Rhwydwaith by email to receive the latest Union news.