Trip yr ysgol Sul
Brynhawn Sadwrn cyntaf Gorffennaf, roedd plant ysgol Sul Hope-Siloh wedi bwriadu mynd i barc gwledig Pen-bre. Ond daeth y gwynt a’r glaw! Newidiwyd y trefniadau, a daeth y plant a’r ieuenctid ynghyd yng nghanolfan Xcel yng Nghaerfyrddin. Cafwyd prynhawn llawn hwyl a sbri wrth fowlio deg, chwarae gemau a dringo drwy’r ardal chwarae meddal, cyn mwynhau hufen iâ blasus. Dathliad bendigedig i orffen y flwyddyn!
Ymweliad yr ysgol Sul â Tesco
Yn ystod ysgol Sul olaf y tymor, aeth plant Hope-Siloh i Tesco i brynu nwyddau i’r banc bwyd lleol, gan ddysgu am bwysigrwydd helpu eraill o fewn ein cymdeithas.
Prosiect Denman
Aeth plant ysgol Sul Hope-Siloh ati’n frwdfrydig eleni eto i gwblhau Prosiect Denman a drefnir gan Undeb yr Annibynwyr. ‘Gwasanaethu Iesu’ oedd y thema eleni a chrëwyd fideo gyda’r bobl ifanc yn dangos sut maen nhw:
- Yn gyntaf, yn ceisio dilyn yr hyn a ddywedodd Iesu wrthym am wneud
- Yn ail, yn gweithredu a dangos cariad Duw mewn ffyrdd ymarferol
- Ac yn drydydd, yn estyn allan ac annog eraill i ddilyn Iesu.
Beth am wylio ein fideo yma?
Parti pitsa’r clwb ieuenctid
Daeth blwyddyn Clwb Plant a Chlwb Ieuenctid Hope-Siloh i ben gyda pharti pitsa!
Cyflwyno Beiblau i ddisgyblion Ysgol Bryniago
Cynhaliodd Mrs Marie Lynne Jones a’r Parch Derek Rees wasanaeth yn ysgol Bryniago fis Gorffennaf, a chyflwynwyd Beiblau ar ran yr eglwys er cof am John Harry i ddisgyblion Blwyddyn 6. Derbyniwyd y Beiblau yn frwdfrydig iawn gan y disgyblion a dymunwn yn dda iddynt yn Ysgol Gyfun Gŵyr ym mis Medi.
Clwb Babanod
Daeth blwyddyn y Clwb Babanod i ben gyda pharti! Roeddem yn ffarwelio gyda 5 o blant eleni a chyflwynwyd hwy a llyfr yr un, a dymunwyd yn dda iddynt. Casglwyd nwyddau a fyddai'n addas i blant, ar gyfer y banc bwyd, a bu'r ymateb yn rhagorol. Gwyliau hapus i bawb!
Sul Sbesial Cydenwadol
Cynhaliwyd Sul Sbesial Cydenwadol ddydd Sul 13 Gorffennaf ym Moriah Brynaman. Roedd cynulleidfa gref yn bresennol a chafwyd oedfa hwyliog a bendithiol, gydag Elfyn a band Y Diarhebion yn arwain y mawl. Cyflwynwyd eitemau hyfryd gan rhai o blant ac ieuenctid yr ardal a neges hynod o bwerus gan Dafydd Iwan. Da oedd bod yno!
Bydd Sul Sbesial Cydenwadol 2026, dydd Sul 12 Gorffennaf am 10.30 yng nghapel Hope-Siloh. Gŵr gwadd, y Parchg Derek Rees. Nodwch y dyddiad!
Pererindod y dosbarth Beiblaidd
Cafwyd diwrnod hyfryd fis Mehefin ar bererindod flynyddol dosbarth Beiblaidd yr ofalaeth. Ymwelwyd yn gyntaf ag eglwys Manordeifi a sefydlwyd yn y 13eg ganrif, ac wedi hynny cynhaliwyd oedfa yng nghapel hynafol y Bedyddwyr Blaenffos. Eglwys Clydai oedd cyrchfan olaf y bererindod. Tu mewn iddi ceir tair carreg gydag arysgrifau o’r 5ed a’r 6ed ganrif. Diweddglo hwyliog i’r diwrnod oedd mwynhau swper blasus yn y Crymych Arms sydd yn fenter gymunedol lewyrchus. Diolch yn fawr i Gareth Jones a Hedd Ladd Lewis am drefnu ar ein cyfer.