Pererindod i Lanuwchllyn

Bore Sul 23 Gorffennaf cychwynnodd mintai ohonom o gapel Ebenezer Rhosmeirch, mam eglwys yr Annibynwyr ym Môn ar bererindod i Lanuwchllyn i’r Hen Gapel, mam eglwys yr Annibynwyr ym Meirionydd. Roeddem yn griw o 33, aelodau Ebenezer a chyfeillion o Siloam Talwrn, ac ychydig o gyfeillion eraill. Roedd y rhagolygon tywydd yn bur ddigalon ond unwaith cawsom bawb ar y bws, roedd awyrgylch braf a sgwrs ddifyr tra cymerai Huw’r gyrrwr y cyfrifoldeb am y daith.

Llanycil

Ein hegwyl gyntaf oedd yng Nghanolfan Mary Jones yn Llanycil, i gael picnic a phaned a golwg o gwmpas y ganolfan. Cawsom groeso cynnes gan Nerys Siddall un o ferched Llangefni sydd wedi ymgartrefu yn Llanuwchllyn. Yna taith fer i’r Hen Gapel, lle’r oedd y Parchg Carwyn Siddall (hogyn o Fôn) yn disgwyl amdanom. Cawsom ymuno yn y gwasanaeth Cymun gyda’r gynulleidfa o dan arweiniad y gweinidog.

Rhoddodd y Parchg Carwyn Siddall fraslun o hanes y capel dros y blynyddoedd a hefyd eglurodd sut y mae’n gweithredu fel gweinidog bro sy’n gofalu am gapeli o wahanol enwadau o dan ei adain. Cawsom gyfle i edrych o gwmpas y capel cyn mynd allan i’r fynwent i weld bedd Michael D. Jones ac erbyn hyn roedd yr haul yn tywynnu.

Llanuwchllyn

Yna troi am bentref Llanuwchllyn lle’r ymunodd y Parchg Carwyn Siddall â ni ar y bws i ddangos rhai llefydd nodedig yn y pentref gan gynnwys yr ysgoldy, adeilad cymharol newydd sy’n cael ei ddefnyddio o Sul o Sul i gynnal gwasanaethau, ond hefyd caiff ei ddefnyddio yn ystod yr wythnos ar gyfer amrywiol weithgareddau.

Gwledda

Troi am adre fu ein hanes wedyn gan deithio heibio llyn Tryweryn ac am Drawsfynydd, gan anelu at westy’r Afr yn Glan Dwyfach i gael swper a sgwrs. A mawr fu’r sgwrsio a mwynhau yno. Yna teithio adre trwy law trwm a chlywed ei bod wedi bwrw drwy’r dydd yn ynys Môn. Dihangfa braf i ni felly.

 

Ann Roberts

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.