Erthygl ddiweddaraf ein Llywydd, Owain Llŷr Evans

Diwrnod y gweinidogion

Daethom, weinidogion, ynghyd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth 10/11. Darparwyd arlwy buddiol ar ein cyfer y tro hwn fel bob amser gan ein Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu, Carwyn Siddall – darlith o bell (Caergrawnt) gan y Parchg Gwilym Tudur ar fywyd a chyfraniad Dietrich Bonhoeffer a chyflwyniad difyr gan y Parchg Dylan Rhys Parry ar bosibiliadau a pheryglon ChatGPT. Daeth Elinor Wyn Reynolds ein Hysgrifennydd Cyffredinol i ymuno â ni. 

Horeb, Penydarren 13/11

Mae Horeb, Penydarren eleni’n dathlu 50 mlynedd ers adeiladu’r capel newydd. Pan drosglwyddwyd i mi’r gwahoddiad i gynrychioli’r Undeb yn y dathliadau, daeth chwilfrydedd. Beth oedd stori’r eglwys hon? Wedi dod o hyd i’r stori, daeth cwestiwn. Pam nad oeddwn i'n gwybod stori Horeb, Penydarren: stori'r hyn a ddigwyddodd; stori'r hyn a ddigwyddodd oherwydd yr hyn a ddigwyddodd? Collwyd adeilad Horeb mewn tân a gyneuwyd yn fwriadol yn 1973. Bwriwyd ati i ailadeiladu, ac ym mis Hydref 1975 agorwyd yr adeilad newydd. Stori dda yw hon: dinistr ac yna – ond yna – ailadeiladu. Braint i mi fel Llywydd oedd cael bod gyda’r bobl hyn yn dathlu, gan fod stori Horeb yn ein hatgoffa bod angen i ni i gyd fod yn feddylwyr hirdymor mewn byd tymor byr. Yn y cyfnod hwn o ysgwyd diwylliannol a chrefyddol mae colled a dinistr yn anochel, ond mae hefyd – bob amser – y cyfle i ailadeiladu ac ailffocysu ar yr hyn sydd bwysicaf: caru Iesu a’n gilydd yn dda.

Yn pregethu’r noson honno roedd y Parchg Allan Pickard, ac yntau newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 80. Ordeiniwyd ef yn Horeb Penydarren. Pregeth ffres a thrawiadol: meini a meini byw. Ceir sôn am y meini yn Josua 4:1-9. Mae’r meini’n cael eu codi i gofio croesi’r bobl i wlad yr addewid. Y pwynt sylfaenol yw bod y meini yn atgoffa’r bobl a’u plant am genedlaethau o wyrth eu hanes. Ond nid atgoffa am a fu yn unig, ond hefyd datgan fod yr hyn a wnaed o hyd yn bosibl. Er mor rymus y meini, yn rymusach o lawer mae meini byw (1 Pedr 2:1-5 a 9): er pwysiced dathlu adeilad newydd, pwysicach dathlu’r meini byw, sef pobl Horeb heddiw, o’r ieuengaf i’r hynaf, wedi’i hadeiladu yn dŷ ysbrydol, yn Deml newydd ym Mhenydarren. Horeb oedd y capel cyntaf ym Mhenydarren, dim ond Horeb a saif. Rhaid sôn am un peth arall, seren y noson sef Estelle. Estelle, un o ffyddloniaid Horeb oedd yn darllen yr adnodau o lythyr cyntaf Pedr, a chystal cyfaddef roedd hyder ei hosgo a goslef ei llais wrth gyhoeddi’r cymal olaf yn rhywbeth a fydd yn aros yn hir yng nghof fy enaid: ‘Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig.’ (1 Pedr 2:9 Beibl.net): Llefarodd Estelle y gair ‘bendigedig’ yn fendigedig. Yn nhywyllwch mis Tachwedd ym Mhenydarren ges i gip olwg ar olau bendigedig Duw yng Nghrist. Mawr fy mraint.

Y Parchg Ddr Jooseop Keum

Daeth Ysgrifennydd Cyffredinol The Council of World Mission i ymweld â Thŷ John Penri (14/11). Braint oedd cael, a mwynhau cwmni Jooseop a’r Ysgrifennydd Cenhadol, y Parchg Dileep Kumar Kandula. Mae ein perthynas â CWM yn fendith i ni, a chyfraniad Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i CWM yn sylweddol fawr. Mae gennym gymaint i’w ddysgu a’i dderbyn gan eraill, a chymaint hefyd o liw i gyfrannu i galeidosgop yr eglwys fyd-eang. Yn y gorffennol, croesi ffiniau daearyddol a wnâi’r cenhadon ac o ganlyniad i’w llafur ceir eglwys bellach ym mhob gwlad dan haul. Heddiw, nawr, croesi ffiniau eraill sydd rhaid, a dwyn ei olau bendigedig i fyd gwaith a hamdden, arian a gwleidyddiaeth, rhyw a diwylliant. O’r herwydd mae addoliad cenhadol ei naws yn anhepgor; dyma fydd yn ysgogiad ac yn gynhaliaeth i ni yn y gwaith o ddod â goleuni Crist i’r holl feysydd hyn. Wedi’r cyfan, pobl a alwyd i gyfranogi yng nghenhadaeth Duw yn y byd sy’n mynd i’r cwrdd o Sul i Sul.

 

Owain Llŷr Evans

 

Useful Links

Related Articles

Keep Informed

Receive the latest news, videos and resources.