Llanfaches: crud Anghydffurfiaeth Cymru, a dechrau Rhagfyr 2025 cynhaliwyd yr oedfa olaf yn y Tabernacl, Llanfaches.
Trefnwyd diwrnod i gofio a dathlu gan y Parchg Gwilym Wyn Roberts a mawr ein diolch iddo. Creodd y diwrnod hwnnw yn y capel bach destlus a glanwaith, sydd ger yr hen ffordd o Gasnewydd i Gas-gwent argraff fawr arnaf; neu ... yn nes at y gwir, bu treulio diwrnod yng nghwmni ffyddloniaid Tabernacl Llanfaches yn fendith fawr i mi. Gwnes nodyn sydyn o sylw gan Eirlys ac un arall gan Jinny. Eu sylwadau hwythau fydd echel ‘Wrth y Llyw’ y tro hwn. Eirlys i ddechrau: ‘We did all that we could.’ Does dim amheuaeth fod hynny’n wir am ffyddloniaid Tabernacl, Llanfaches fel mae hynny’n wir am ffyddloniaid dygn, dewr cymaint o eglwysi ledled Cymru. Ni ddylid gwneud yn fach o’r dycnwch hwn. Yn A Son at the Front gan Edith Wharton – nofel yn ymdrin ag erchylltra’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy gyfrwng colled a galar un teulu – mae un o’r prif gymeriadau – y fam – yn mynnu bod modd gwneud gwahaniaeth mewn bywyd. Mae hi’n mynegi’r peth yn gryno mewn cymal syml: ‘One can at least contribute an attitude.’ Agwedd bywiol, hyderus a chadarnhaol. Ie, mymryn o ffydd, tamaid o obaith, gronyn o gariad. Y cyfan mor fach, mor bitw bach. Mor fach? Mor enfawr o fawr! Beth ellid ei wneud wyneb yn wyneb â phoen a thor calon y byd: contribute an attitude. Beth ellid ei wneud â’n capeli’n cau? Contribute an attitude: agwedd gadarnhaol, obeithiol, cariadlawn. Roedd y brenin, mae’n debyg, am ddewis olynydd o blith ei dri mab, a hynny yn ôl eu dyfeisgarwch. Y dasg a roddodd iddynt oedd llenwi ystafell wag. Prynodd un mab lwyth o wellt a llenwi’r ystafell i’r nenfwd. Gydag amser aeth y llwyth yn llai. Prynodd yr ail fab lwyth o bridd, ond gostwng yn raddol fu hanes hwnnw hefyd. Prynodd y trydydd, am ychydig geiniogau, gannwyll a llenwi’r stafell â goleuni, drachefn a thrachefn, trosodd a thro. Codwn ein calonnau. Nid oes disgwyl i Gristnogion digalon allu cyflawni fawr o ddim. Colli hyder yw’r golled drymaf.
Ymlaen at Jinny. Stori oedd ganddi am berchennog y ganolfan arddio leol. Pan glywodd hwnnw fod y capel yn cau, daeth â choeden Nadolig i’r Tabernacl. Nid oedd wedi croesi rhiniog y lle ers blynyddoedd lawer, ond cafodd fagwraeth iach a chynhaliol yno ac roedd am ddatgan ei ddiolch. Beth oedd sylw Jinny felly? ‘People don’t forget.’ Maya Angelou sydd piau’r geiriau: ‘People will forget what you said, people will forget what you did, but people will never forget how you made them feel.’ Po hira’ ’dw i’n sefyll ‘Wrth y Llyw’, mwyaf i gyd ’dw i’n sylweddoli mai ofer ein pregethu, ein hymweld, ein pwyllgora, ein strategaethau, ein gwefannau – a hyd yn oed ein symud o X i Insta – os na fydd ein pobl: ffyddloniaid dygn dewr eu gweinidogaeth a’i gwasanaeth yn ymdeimlo â gwres ein gwerthfawrogiad didwyll ac angenrheidiol.
A dw i’n gorffen gyda sylw’n codi gan y capel ei hun: yr enw ‘Tabernacl’ – pabell y cyfarfod. Pethau dros-dro yn unig yw pebyll. Mae Salm 84 yn agor: ‘Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd!’ Mae’r Salmydd yn gweld adeilad sylweddol, ei seiliau’n gadarn, ei goed yn gedrwydd Libanus, a’i furiau’n gerrig dethol i gyd, ond er waethaf hynny – oherwydd hynny – mae’r Salmydd yn mynnu cadw’i olwg ar y deml gynfas symudol yn yr anialwch gynt. Dyna’r darlun y mae am gadw, cerrig a chedrwydd Libanus neu beidio. Nid oes berygl, felly i’r deml gymryd lle Duw yng nghalon hwn. Roedd dewis yr enw ‘Tabernacl’ i’r capel yn Llanfaches yn ddewis da, a phroffwydol – pabell frau dros amser yw’r adeilad cadarnaf a godwn; cyfrwng dros dro, at y pwrpas. Mae’r adeilad yn cau; ydy ond mae’r anialwch yn parhau, ac o’r herwydd erys y bererindod, erys yr angen i ddiolch i, a dilyn ôl traed y sawl sy’n dilyn eu bugail drwy’u hoes, er amarch a gw’radwydd nid dim ond y byd, ond hefyd, weithiau, er mawr siom yr union bobl a sefydliadau a ddylai yn anad neb arall eu dathlu a’u gwerthfawrogi.
Owain Llŷr Evans, Llywydd Umdeb