Cyngor Cyffredinol Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, Chiang Mai,14–23 Hydref 2025
Braint fawr i’r Parchedig Beti-Wyn James a minnau oedd cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yng Nghyngor Cyffredinol Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, yn Chiang Mai, Gwlad Thai yn ystod mis Hydref. Bu Beti-Wyn yn ddiwyd yn creu blog dyddiol o sylwadau a lluniau a ymddangosodd yn ddyddiol ar Facebook; heb amheuaeth, llwyddodd y rhain i drosglwyddo rhywfaint o gyffro, mwynhad a bendith y Cyngor. Bythefnos ar ôl dychwelyd dyma finnau yn taflu trem yn ôl ar naw diwrnod y bydd i’r ddau ohonom gofio a myfyrio arnynt am hir amser.

Y Cymundeb
Ffurfiwyd Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd yn 2010, yng Ngholeg Calfin, Grand Rapids UDA, trwy uno Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd a’r Cyngor Eciwmenaidd Diwygiedig. Roedd y Parchedig Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar y pryd, a minnau yn y cyfarfod hwnnw ac ‘roedd Geraint yn un o lofnodwyr y ddogfen sefydlu. Mae’r Cymundeb yn cynrychioli dros 100 miliwn o Gristnogion mewn 230 o eglwysi ac undebau eglwysig ar draws 108 o wledydd. Wedi’i wreiddio yn nhraddodiad diwygiedig Diwygiad Protestannaidd yr 16eg ganrif, mae’r Cymundeb yn cynnwys eglwysi Cynulleidfaol, Presbyteraidd, Diwygiedig ac Unedig. Hyrwydda’r Cymundeb undod Cristnogol a chyfiawnder cymdeithasol, gan ymgysylltu’n weithredol â materion byd-eang fel newid hinsawdd, hawliau dynol ac anghydraddoldeb economaidd. Trwy holl waith ei genhadaeth pwysleisia’r Cymundeb ar fyfyrio diwinyddol a gweithredu proffwydol. Mae’r sefydliad yn olrhain ei darddiad i 1875, gan adlewyrchu ymrwymiad hirhoedlog i feithrin cymundeb ymhlith Cristnogion Diwygiedig. Er 2017, braint fawr i mi’n bersonol yw bod wedi cael cyfrannu i waith y Cymundeb trwy fod yn un o 24 aelod ei Bwyllgor Gweinyddol.
Beth felly sy’n aros yn y cof?

Anerchiad y Llywydd
un o uchafbwyntiau’r Cyngor oedd Anerchiad y Llywydd a hynny ar thema’r cyfarfod ‘Dyfalbarhewch yn eich Tystiolaeth’. Ynghanol argyfyngau byd-eang – newid hinsawdd, rhyfel, anghydraddoldeb, ac aflonyddwch technolegol – gelwir ar yr Eglwys i aros yn ddiysgog ac yn obeithiol. Gan dynnu ar y cysyniad Beiblaidd o hupomonē, gair Groegaidd sy’n golygu dygnwch gweithredol, bu’r Parchedig Najla Kassab, Llywydd y Cymundeb er 2017 ac sy’n weinidog ordeiniedig yn Eglwys Efengylaidd Genedlaethol Syria a Libanus, yn ein hannog i barhau yn ein cenhadaeth o gyfiawnder a diwygio. Gan gyfeirio at ddathlu 150 mlynedd o dystiolaeth, myfyriodd ar wydnwch y Cymundeb a’i ragflaenwyr yn goroesi heriau fel y pandemig, argyfyngau ariannol, a newidiadau arweinyddiaeth. Soniodd am Gyffes Accra sydd, er dros 20 mlwydd oed bellach, yn dal fel dogfen arweiniol ar gyfer wynebu anghyfiawnder economaidd ac ecolegol. Amlygodd yr argyfwng dyngarol yn Gaza fel galwad am dystiolaeth broffwydol a chydymdeimlad. Pwysleisiodd gydweithio rhanbarthol a phartneriaethau eciwmenaidd fel nodweddion hanfodol i gryfder y Cymundeb. Gorffennodd yr anerchiad gan droi at gelf Kintsugi, y gelfyddyd Siapaneaidd o atgyweirio crochenwaith toredig ag aur. Symboleiddia hyn sut y gellir trawsnewid heriau a gwendidau’r Eglwys yn harddwch trwy ras Duw.
Gweithdai
Treuliwyd y deuddydd cyntaf yn mynychu gweithdai; rhain yn mynd i’r afael â materion byd-eang pwysfawr a’u dadansoddi drwy lens yn seiliedig ar ffydd. Bu Beti-Wyn a minnau mewn nifer o weithdai gwahanol. Canolbwyntiodd gweithdy, Cyfiawnder yn yr Economi a’r Ddaear, ar archwilio cwymp ac anghydraddoldeb ecolegol, gan eiriol dros gyfiawnder treth a chanslo dyled drwy’r Bensaernïaeth Ariannol ac Economaidd Ryngwladol Newydd (NIFEA; menter y mae’r Undeb a’i Gyngor wedi ei ystyried mewn cryn fanylder). Roed yn agoriad llygad i fynychu Gweithdy Myanmar a dysgu am y gwrthdaro hirhoedlog a’r caledi economaidd a wyneba’r wlad.
Canolbwyntiodd gweithdy arall ar Gynhwysiant Anabledd gan annog eglwysi i symud y tu hwnt i dosturi a chofleidio cyfiawnder, hygyrchedd, a diwinyddiaeth gadarnhaol i bobl ag anableddau. Pwnc sydd bob amser yn ddadleuol ac felly y bu y tro hwn hefyd pan drafodwyd Ffydd fel Arf yr Ymerodraeth. Yma cafwyd ymdriniaeth o sut mae crefydd yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau awdurdodaeth, addoliad cyfalaf, a gormes gymdeithasol.
Roedd y gweithdy ar Bobl Gynhenid yn ceisio ymhelaethu ar bryderon brodyr a chwiorydd cynhenid, gan annog eglwysi i wrando, dysgu, a chefnogi ymdrechion cyfiawnder. Tipyn o agoriad llygad oedd gwrando ar brofiadau siblingiaid o Ynysoedd y Môr Tawel, Indiaid Gogledd yr Amerig, a thrigolion Gogledd Sgandinafia. Cefais ysbrydoliaeth yn y drafodaeth ar Genhadaeth mewn Argyfwng wrth i ni fynd ati i ail-ddiffinio cenhadaeth fel gwrthwynebiad dwyfol, gan alw eglwysi i ymateb yn ystyrlon i orthrwm byd-eang mewn mannau fel Gaza, Myanmar, a Wcráin. Tebyg oedd y profiad wrth drafod Gweithredu Heddwch yng Nghorea. Sut mae hyrwyddo cymod a heddwch ar Benrhyn Corea? Pwysleisiwyd arwyddocâd byd-eang y sefyllfa a rôl yr eglwys wrth feithrin democratiaeth a hawliau dynol. Bu I’r ddau ohonom fynychu’r gweithdy ar Brosiect Onesimus. Gwyddem am hwn o’n hymwneud a gwaith yr Undeb a chawsom ein harwain am orig arbennig iawn gan gyfaill i’r ddau ohonom, y Parchedig Roderick Hewitt o Jamaica, wrth iddo drafod sut orau i wynebu etifeddiaeth caethwasiaeth a threfedigaethu, gan eiriol dros gyfiawnder atgyweirio a pherthnasoedd wedi’u trawsnewid trwy urddas a chyfiawnder.
Dros y deuddydd cyntaf hyn, tra roeddwn i yn mynychu nifer o gyfarfodydd trefn a busnes y Pwyllgor Gweinyddol, roedd Beti-Wyn yn chwarae rhan amlwg yn Grŵp Cawcws y Menywod a oedd yn trafod ‘Ei Llais ei Hun, Ein Tyst Ni’. O sgwrsio gyda Beti-Wyn a chlywed adroddiad y grŵp pwysleisiwyd ar rôl hanfodol lleisiau menywod yn nhystiolaeth yr Eglwys yng nghanol argyfyngau byd-eang fel rhyfel, argyfwng ecolegol, a chenedlaetholdeb crefyddol. Gan dynnu ysbrydoliaeth o Hebreaid 12:1, bu i’r Cawcws gadarnhau fod tystiolaethau menywod – a oedd ar yr ymylon ar un adeg – yn ganolog i ymgais yr Eglwys am gyfiawnder a chariad. Archwiliwyd pedair thema gan y merched: cyfiawnder ecolegol a hinsawdd o safbwynt ffeministaidd, profiadau menywod mewn rhyfel a militariaeth, addysg Gristnogol ffeministaidd, a thrawsnewid strwythurol mewn arweinyddiaeth eglwysig. Bu’r Cawcws hefyd yn ystyried cynnwys yr adroddiad Archwiliad Rhywedd, gan dynnu sylw at faterion arweinyddiaeth a chydraddoldeb mewn eglwysi, a hyrwyddo addysg Gristnogol ffeministaidd trwy astudiaeth Feiblaidd gyd-destunol a defod. Nod y dulliau hyn yw herio patriarchaeth a meithrin arferion eglwysig cynhwysol.

Astudiaethau Beiblaidd
Heb amheuaeth, amheuthun yr Astudiaethau Beiblaidd a gawsom. Amhosibl adrodd nôl ar holl gyfeiriadau, myfyrdodau a holi diwinyddol y gyfres o Astudiaethau y cawsom y fraint o’i rhannu. Erys dwy astudiaeth yn fy meddwl. Y cyntaf gan Miriam Spies a oedd yn fyfyrdod diwinyddol wedi’i wreiddio mewn cyfiawnder anabledd. Aeth Spies, diwinydd crip, ati i adennill y term ‘crip’ i herio normau gallu a dehongli’r Ysgrythur trwy lens ymgorfforiad ymylol. Gan ganolbwyntio ar Luc 22, beirniadodd y modd y trowyd y disgyblion tuag at drais yng ngardd Gethsemane a thynnu sylw, yn hytrach, at iachâd Iesu o glust caethwas fel gweithred o wneud iawn. Aeth yn ei blaen i ystyried sut mae ymerodraethau’n dibrisio cyrff – anabl, hiliol, cynhenid – trwy drais systemig, ewgeneg a dirywiad amgylcheddol. Trwy droi at ddiwinyddion fel James Cone, Nancy Eiesland a Dietrich Bonhoeffer, bu’n dadlau bod corff toredig, atgyfodedig Iesu yn cadarnhau sancteiddrwydd pob corff, yn enwedig y rhai a ystyrir yn wariadwy. Mae’r cysyniad o ‘Crist trosof’ yn pwysleisio undod Iesu â’r rhai dan orthrwm.
Roedd Spies yn feirniadol iawn o naratifau ‘supercrip’ sy’n dathlu unigolion anabl dim ond pan fyddant yn goresgyn adfyd, gan atgyfnerthu delfrydau gallu. Yn hytrach, galwodd am ‘ddyfodol crip’ – gweledigaethau o gyfiawnder lle mae cyrff anabl yn cael eu dymuno a’u gwerthfawrogi. Rhaid i’r eglwys, meddai, fel cymuned Crist, feithrin perthnasoedd cyfiawn a gwrthsefyll diwinyddiaeth wedi’i glanweithio sy’n dileu realiti corfforol.
Yr ail fyfyrdod a ddaliodd fy nychymyg oedd hwnnw gan Jione Haveaar Bwyd a Thalanoa yn Dyst, yn archwilio arferion a thraddodiadau’r Môr Tawel o gyd-blethu rhannu bwyd a Talanoa – adrodd straeon, adrodd, a sgwrsio – fel ffocws canolog i fywyd cymunedol a diwinyddiaeth. Nid dull yn unig yw Talanoa ond arfer diwylliannol byw sy’n llunio hunaniaeth a pherthnasoedd. Mae’n cwmpasu naratif, y weithred o adrodd, a’r drafodaeth gymunedol o amgylch straeon, gan bwysleisio nad oes unrhyw stori yn ynysig nac yn niwtral. Roedd Havea yn cysylltu Talanoa â diwinyddiaeth, gan ddadlau bod y ddau yn wleidyddol, yn groesdoriadol, ac yn barhaus. Agorodd ein llygaid i ddarllen hanes yr Efengyl am Iesu yn bwydo’r tyrfaoedd (Mathew 14 a 15; Ioan 6) drwy lens y Môr Tawel, gan amlygu perthnasoldeb a chydbwysedd dros syniadau cyfalafol o drafodion a chyfoeth. Yn niwylliant y Môr Tawel, mae bwyd yn gyllid perthynas, ac mae digwyddiadau fel gwleddoedd yn ymdrechion cymunedol lle mae pawb yn cyfrannu, ni waeth pa mor fach y cyfraniad.
Cawsom ein harwain i ailddehongli’r gwyrthiau bwydo ac i bwysleisio cyfraniadau unigolion dienw – yn enwedig y bachgen yn hanes Ioan gyda’r tebygrwydd bod ei deulu wedi paratoi’r bwyd iddo, y teulu di-sôn-amdano. Mae hyn yn herio naratifau amlwg ac yn gwahodd cydnabyddiaeth o gyfranogwyr anweledig. Mae’r digonedd i fwydo’r dorf, a’r bwyd dros ben yn y straeon yn symboleiddio cynaliadwyedd a doethineb (fakapotopoto), gan annog cymunedau i werthfawrogi cyfraniadau bach a rhannu adnoddau. Beirniadaeth Havea oedd y diffyg cydnabyddiaeth a chydbwysedd tuag at y bachgen a’i deulu, gan annog ail-adrodd y straeon i adfer cyfiawnder perthnasol.
Dathlu 150
Yn ystod y Cyngor bu’r Cymundeb yn dathlu ei 150fed pen-blwydd gyda gwasanaeth arbennig ac unigryw. Cyfunwyd cerddoriaeth gyffrous, seremoni liwgar, a phregethu o’r galon, gan greu awyrgylch o lawenydd ac undod. O’r cychwyn cyntaf, dangosodd y gwasanaeth amrywiaeth fyd-eang, gyda phedair fersiwn wahanol o ‘Aleliwia’ o’r Caribî, yr Unol Daleithiau, Palestina a Syria. Galwodd litani ‘Cofio Ein Stori’, dan arweiniad oedolion ifanc, arnom i anrhydeddu cenedlaethau o dystion ffyddlon. Fe’m cyffrowyd yn lan pan glywais ganrif union yn ôl yn 12fed Cyngor Cyffredinol o ‘Gynghrair yr Eglwysi Diwygiedig yn arfer y System Bresbyteraidd’, rhagflaenydd y Cymundeb, ym 1925, yng Nghaerdydd, yma yng Nghymru bod y diwinydd unigryw hwnnw o’r Swistir, Karl Barth wedi annerch, a galw ar y Gynghrair i symud o fod yn gorff cyffesol i weithredu fel corff yn cyffesu: ‘Rydym, yma, nawr, yn cyffesu hyn.’ Rhaid bydd chwilio allan mwy am y cyfarfod hwn!
Myfyriodd lleisiau amlwg ar daith y Cymundeb. Pwysleisiodd y Parchedig Ddr Allan Boesak ffyddlondeb Duw fel ffynhonnell dewrder, tra mynegodd yr Athro Jane Dempsey Douglas ddiolchgarwch am ddegawdau o gydweithio eciwmenaidd. O Indonesia, galwodd y Parchedig Ddr Kadarmanto Hardjowasito am barhau i ddiwygio ac eiriolaeth dros gyfiawnder a gofal am y greadigaeth. Anogodd y llywydd presennol ymddiriedaeth yn arweiniad yr Ysbryd ar gyfer cenhadaeth yn y dyfodol. Chwaraeodd cerddoriaeth rôl ganolog, nid dros nos y bydd i gyflwyniad llond llwyfan o Gristnogion Chiang Mai o ‘Mor fawr wyt ti’ gyda drymio hynod o ddramatig fynd yn angof. Pregethodd y Parchedig Ddr Jerry Pillay, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r Byd, ar Hebreaid 12:1–2 gan ein herio fel credinwyr i gynnal gobaith yng nghanol argyfyngau byd-eang. Cadarnhaodd y bydd cyfiawnder a chariad Duw yn drech yn y pen draw.
Nid anghofiaf un weithred o ostyngeiddrwydd. Roedd y ddefod o olchi traed rhwng Parchedig Ddr Setri Nyomi, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cymundeb, a’r Parchedig César García, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynhadledd Fyd-eang y Mennoniaid, yn ymgorffori cymod a dysgu cydfuddiannol. Daeth hyd yn oed yr offrwm yn ddawns lawen wrth i ni fel addolwyr jigio i flaen y neuadd i gyfrannu wrth ganu’r emyn Zulu ‘Hamba Nathi’. Daeth y diwrnod i ben gyda gwledd gymunedol wedi ei threfnu gan Eglwys Crist yng Ngwlad Thai, y cyfan yn atgyfnerthu thema llawenydd a diolchgarwch a rennir. Fel y nododd Nyomi, ‘Beth yw dathliad teuluol heb fwyta gyda’n gilydd?’ Roedd y gwasanaeth pen-blwydd hwn yn fwy na choffadwriaeth – roedd yn dyst i ffydd barhaus, undod byd-eang, ac ymrwymiad newydd i gyfiawnder, heddwch a chariad.

Allan yn y gymuned
Cawsom un diwrnod o deithio i ymweld â gwahanol leoliadau. Heb yn wybod i’n gilydd dewisodd Beti-Wyn a minnau’r un man! Sefydlwyd Canolfan Astudiaeth Datblygu Brenhinol Huai Hong Khrai yn 1982, gan y Brenin, i fynd i’r afael â’r datgoedwigo difrifol, sychder a thanau coedwig a welwyd yn yr ardal. Prif genhadaeth y Ganolfan yw ymchwilio a gweithredu modelau datblygu cynaliadwy sy’n hyrwyddo cadwraeth amgylcheddol a hunanddibyniaeth ymhlith ffermwyr. Mae mentrau allweddol y Ganolfan yn cynnwys adfer coedwigoedd trwy dyfu coed am bedwar budd – economaidd, ffrwythau, coed tân, a chadwraeth pridd-dŵr. Mae’r Ganolfan hefyd yn canolbwyntio ar reoli gwahanfeydd dŵr gan ddefnyddio systemau dyfrhau, dŵr glaw, argaeau a thoriadau tân gwlyb i gynnal lleithder pridd ac atal tanau.
Gweithreda’r Ganolfan fel gwasanaeth un-cam ar gyfer ymchwil, arbrofi ac arddangos rhyngddisgyblaethol, gan alluogi ffermwyr i fabwysiadu arferion cynaliadwy. Mae ei hamcanion yn cynnwys astudio adnoddau dŵr, coedwigaeth, pridd ac amaethyddiaeth ecolegol, y cyfan wedi eu cyllido gan y Brenin. Gwasanaetha’r Ganolfan hefyd fel ffocws gwybodaeth a hyrwyddo hunanddibyniaeth trwy athroniaeth Economi Ddigonolrwydd. Gweithia hefyd i warchod adnoddau naturiol a datblygu systemau rheoli basn dyfrol.
Ers ei sefydlu, mae’r Ganolfan wedi cwblhau prosiectau is-adeiladedd a gweithgareddau ymchwil parhaus, gan ledaenu canlyniadau i gymunedau lleol ac asiantaethau’r llywodraeth. Un o gampau nodedig yw’r prosiect coedwigaeth, a wellodd ansawdd y pridd o dywodfaen i hwmws llawn maetholion. Mae astudiaethau amaeth-goedwigo yn cynnwys 20 rhywogaeth o blanhigion fel coed pupur a ffrwythau. Yn ogystal, mae’r Ganolfan yn cefnogi hwsmonaeth anifeiliaid (er nad oedd Beti-Wyn yn or-hoff o’r ffermio brogaod!), dosbarthu hadau, ac yn darparu canllawiau technegol i ffermwyr. Mae ei llwyddiant yn gorwedd mewn datblygu is-adeiladedd, ymchwil, a chydweithio ymhlith asiantaethau’r llywodraeth, gan gyfrannu at fywoliaeth gynaliadwy a chadwraeth amgylcheddol yn y rhanbarth.
Prif siaradwyr a thrafodaethau
Cafwyd anerchiadau grymus gan nifer o siaradwyr huawdl. Eu tasg oedd archwilio croesffordd cyfiawnder, ffydd, a rôl esblygol yr eglwys yn y byd heddiw. Pwysleisiodd Allan Boesak fod cenhadaeth Gristnogol wedi’i gwreiddio yn yr anaf a achosir i Dduw gan anghyfiawnder. Disgrifiodd yr oes bresennol fel un sy’n cael ei dominyddu gan bŵer imperialaidd treisgar a thynnodd sylw at Balestina fel mesur allweddol o uniondeb gwleidyddol ac ysbrydol. Galwodd am sgyrsiau dewr a bregus sy’n herio’r status quo ac yn adlewyrchu cenhadaeth aflonyddgar Crist. Beirniadodd Dr Janneke Stegeman gydsyniad yr eglwys mewn systemau gormes, yn enwedig Protestaniaeth drefedigaethol yr oedd hi’n dadlau oedd yn parhau goruchafiaeth wen dan gochl niwtraliaeth a chyffredinolrwydd. Cwestiynodd a yw’r eglwys yn barod i amharu ar ei strwythurau ei hun wrth geisio cyfiawnder, yn enwedig yng ngoleuni gwrthdaro byd-eang fel Gaza.
Trafod y cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial (DA), a wnaeth Roderick Hewitt, gan rybuddio bod ymateb yr eglwys i’r ‘system DA fyd-eang imperialaidd’ wedi bod yn oddefol. Cysylltodd dwf digyfyngiad DA â chyfalafiaeth ddirwystr a goruchafiaeth wen, gan annog disgyblaeth radical i wynebu’r grymoedd. Yn olaf, rhannodd Inatoli Aye, a oedd yn cynrychioli cymuned Gynhenid Naga (India), sut y cofleidiodd ei phobl Gristnogaeth trwy eu hasiantaeth eu hunain, yn hytrach na thrwy ddylanwad cenhadol. Pwysleisiodd fod yn rhaid i genhadaeth ddysgu o brofiadau cynhenid, gan gydnabod bod Duw yn bodoli y tu hwnt i furiau eglwysi. Galwodd Aye am ddiwygiad dan arweiniad y rhai a gafodd eu tawelu’n hanesyddol, gan ragweld cymundeb lle mae cyfiawnder yn drech a’r holl greadigaeth yn ffynnu. Gyda’i gilydd, heriodd y siaradwyr yr eglwys i ailddychmygu ei chenhadaeth fel un o aflonyddwch, cyfiawnder, a gwrando’n ddwfn ar leisiau sydd wedi’u hymylu.
Craffu a chonsensws
Yn dilyn yr anerchiadau cawsom gyfle fel cynrychiolwyr i drafod. Hynny, yn gyntaf, mewn grwpiau bychain ac yna fel Cyngor cyfan. Gwneir penderfyniadau drwy gonsensws yn hytrach na phleidlais (o’i sefydlu dim ond ar faterion cyllidol a chyfansoddiadol y mae’r Cymundeb yn pleidleisio). Cynnwys y broses craffu agweddau o wrando, dirnadaeth, drafftio a gwneud penderfyniadau. Rhoddir cardiau oren a glas i gynrychiolwyr; oren yn dynodi cytundeb a glas yn dynodi anghytundeb neu alwad am barhau’r drafodaeth. Cytunir ar benderfyniadau drwy gonsensws pan fo cytundeb unfrydol neu pan fydd y rhai sydd wedi nodi anghytundeb yn teimlo bod eu barn wedi’i chlywed a’i thrafod yn ddigonol ac maent yn cydnabod eu bod yn hapus i symud ymlaen. Yn ymarferol, nid oedd hyn yn gweithio allan bob amser. Ar y rhan fwyaf o bynciau, roedd y Cyngor yn cytuno drwy gonsensws ond roedd llond llaw o bynciau a ddaeth i’r amlwg dro ar ôl tro a achosodd anghytundeb – Palestina, Seioniaeth Gristnogol, rhywedd a rhywioldeb.
Bu’r diwrnod cynderfynol yn anodd gyda nifer o’r pynciau yn arwain i fethiant dod i gonsensws. Gadawodd llawer y neuadd gan deimlo nad oedd y datganiadau’n mynd yn ddigon pell a gadawodd eraill gan deimlo eu bod wedi cael eu diystyru a’u bod heb eu clywed. Yn ddealladwy efallai ar ôl naw diwrnod o drafodaethau, gweithdai, teithiau a gwneud penderfyniadau, roeddem i gyd yn flinedig, yn barod i fynd adref, ac yn barod i gloi busnes y Cyngor.
Digwyddodd rhywbeth eithaf rhyfeddol ar ein diwrnod olaf. Gwyrth? Cwblhawyd a diwygiwyd datganiadau gyda rhwyddineb o’i gymharu â’r dyddiau blaenorol. Bu i ni ymgasglu at ein gilydd o amgylch Bwrdd yr Arglwydd ar gyfer ein gwasanaeth cymun. Fedra i ddim ond siarad drosof fy hun ond roedd y gwasanaeth hwn yn un hynod o brydferth, ac yn ei brydferthech yn fendithiol gyffrous. Roedd teimlad gwirioneddol o lawenydd yr Arglwydd wrth i ni rannu’r heddwch gyda’n gilydd ac wrth i gynrychiolwyr ymuno â llinell conga o amgylch y neuadd lawn yn canu gyda’i gilydd ‘dewch i gerdded gyda ni, mae’r daith yn hir’ a ‘rydym yn gorymdeithio yng ngoleuni Duw.’ Mae yna daith hir o flaen y Cymundeb ond wrth i ni gerdded allan o’r neuadd enfawr yn Chiang Mai roedd pob un ohonom rwy’n tybio yn gwybod byddai’n cam nesaf yn cael ei oleuo gan Dduw: ‘dy air yn lamp i’m traed, yn oleuni ar fy llwybr.’ (Salm 119:105)
ON: Gair personol i orffen. Gyda’r Cyngor hwn yn Chiang Mai, daeth fy nghyfnod fel aelod o Bwyllgor Gweinyddol Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd i ben. Amhosibl i mi yw datgan yn ddigonol fy niolchgarwch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am fy enwebu ’nôl yn 2017, yn Leipzig, yr Almaen, i fod yn un o’r 24 aelod. Bu’n gyfnod hollol anhygoel ac unigryw. Datblygais a thyfais fel Cristion, ehangwyd fy ngorwelion a chefais y fraint o wneud ffrindiau newydd ledled y byd. Mawr fy nyled i’r Undeb a’r Cymundeb. Diolch!