Mae gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg dri aelod staff llawn amser a dau rhan amser.  O'u pencadlys yn Nhŷ John Penri, Abertawe, mae'r staff yn cefnogi a gwasanaethu eglwysi'r Undeb.

DSC_4138.JPG
Ysgrifennydd Cyffredinol

Dyfrig Rees

Brodor o Gwm Gwendraeth yw’r Parchg Dyfrig Rees, a bu’n gweinidogaethu yn Llanbrynmair a Charno ym Maldwyn, yn y Tymbl a Llannon yng Nghwm Gwendraeth, ac yn Drefach, Llanelli, cyn symud i Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tŷcroes ac yna i’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr. Etholwyd ef i’w swydd bresennol yn 2018 a dechreuodd ar ei waith ar ddechrau Medi’r flwyddyn honno. Y mae’n briod â Mandy ac y mae ganddynt ddau fab, Rheinallt a Rhodri. Y mae Dyfrig yn aelod o eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw cynnig arweiniad, ysgogi gweithgarwch a hyrwyddo holl bolisïau’r Undeb gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r genhadaeth. Mae hefyd yn cynnig gofal bugeiliol i’r Cyfundebau, yr eglwysi a’r gweinidogion. Mae’n cynrychioli’r Undeb yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â’i gyd-swyddogion cyfatebol mewn enwadau eraill.

Ann Williams.jpg
Ysgrifennydd Gweinyddol

Ann Williams

Brodor o Glynarthen yng ngodre Ceredigion yw Ann, ac fe’i maged yn y Barri. Wedi derbyn ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, aeth yn ei blaen i ennill cymwysterau yn y byd ariannol. Treuliodd yn agos i ugain mlynedd yn gweithio i fanc Barclays gan dreulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio yn ne Ceredigion a Phenfro.

Fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Gweinyddol yr Undeb yn 1998 ac mae’n aelod yng Nghapel y Nant, Clydach.

IMG_1015-1024x1024.jpg
Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu

Rhodri Darcy

Daeth Rhodri Darcy, Rhydaman, yn Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu yr Undeb ym mis Ionawr 2016. Hyd hynny, treuliodd y rhan helaethaf o’i yrfa yn y diwydiant darlledu, a bu’n cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni yn Gymraeg a Saesneg.

Ei gyfrifoldebau yw hyrwyddo cymdeithasau a rhwydweithiau’r Undeb, datblygu ein dulliau cyfathrebu a chynhyrchu deunydd fideo a sain yn ôl y galw.

Mae’n aelod o Eglwys Efengylaidd, Rhydaman.

Carwyn Siddall.jpg
Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau

Carwyn Siddall

Y Parchg Carwyn Siddall, Llanuwchllyn yw Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau yr Undeb. Swydd rhan amser yw hon iddo gan ei fod yn parhau â gofal ei eglwysi ym Mhenllyn, Meirionnydd. Y mae Carwyn yn berson adnabyddus iawn yn ein plith, yn weinidog egnïol a chydwybodol ac yn un parod ei gymwynas i’r Undeb, wedi gwasanaethu fel swyddog Adran Tystiolaeth ac Adran Eglwysi a’u Gweinidogaeth ac ar y Pwyllgor Gweinyddol. 

Meinir Williams.JPG
Swyddog Gweinyddol

Meinir Williams

Meinir Williams yw Swyddog Gweinyddol rhan-amser yr Undeb.

Daw Meinir yn wreiddiol o Hirwaun, Aberdâr a’i magu yn un o blant eglwys Siloa. Ers blynyddoedd bellach bu’n byw yn y Tymbl Uchaf ac mae’n aelod yn eglwys Bethania yno.

Cafodd Meinir yrfa lwyddiannus fel athrawes ysgol, yn fwyaf diweddar yn ysgol gynradd Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

elinor-1024x1024.jpg
Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwy-ydd

Elinor Wyn Reynolds

Ymunodd Elinor Wyn Reynolds â staff yr Undeb ym mis Mai 2017. Yn awdur, bardd a golygydd, daeth â llu o ddoniau i’w cyfrannu at weithgarwch yr Undeb.

Ei phrif gyfrifoldebau yw paratoi Y BlwyddiadurDyma’r Undeb ac amrywiol gyhoeddiadau achlysurol eraill yr Undeb (ac eithrio’r adroddiadau blynyddol). Mae hefyd yn cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i gydlynu yr amrywiol elfennau o weithgarwch yr Undeb.

Mae’n aelod o Eglwys y Priordy, Caerfyrddin.

alun lenny.jpg
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Wasg

Alun Lenny

Bu Alun Lenny yn ohebydd newyddion o 1974-2007 ar y Carmarthen Journal, y BBC a Newyddion S4C. Treuliodd 25 mlynedd gyda’r BBC yng Nghaerfyrddin, gan ohebu ar straeon ledled Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ac mewn gwledydd eraill o bryd i’w gilydd. Bu’n bregethwr cynorthwyol ers 2002, yn Gydlynydd Cenhadol Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin, ac yn Arweinydd eglwys Annibynnol Bwlch-y-corn. Mae’n aelod o gynghorau Sir a Thref Caerfyrddin.

Parchg-Jeff-Williams-1024x951.jpg
Llywydd

Jeff Williams

Y Parchg. Jeff Williams, Aberhonddu yw Llywydd newydd yr Undeb.
Gwnaeth gyfraniad sylweddol yn ein plith fel gweinidog, fel swyddog adran ac aelod o’r Cyngor a’r Pwyllgor Gweinyddol. Yn sgil ei waith gyda Chymorth Cristnogol, tyfodd yn arweinydd cadarn a diogel ei gyfarwyddyd ar faterion cymdeithasol.

Beti-Wyn 3.jpg
Cyn Lywydd

Beti-Wyn James

Daw Beti-Wyn James o Gwm Tawe a bu ar staff yr Undeb am gyfnod cyn graddio yng Ngholeg yr Annibynwyr Cymraeg,  Aberystwyth, ei hordeinio’n weinidog yn y Tabernacl, Y Barri, ym 1994 a symud  i Ofalaeth Y Priordy, Cana a Bancyfelin yn 2002. Yn weithgar a brwdfrydig yng ngweithgarwch yr Undeb a’r Cyfundebau y mae wedi perthyn iddynt, mae bod yn Gadeirydd Ysgol Haf Gweinidogion yr Annibynwyr ymhlith ei chyfrifoldebau presennol.  Mae’n awdur ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau ond, yn anad dim arall, yn weinidog i’r Arglwydd Iesu Grist. 

image0.jpeg
Darpar Lywydd

Owain Llŷr Evans

Darpar lywydd yr Undeb a etholwyd yn ddiweddar yw'r Parchg Owain Llŷr Evans, Minny Street, Caerdydd. Llongyfarchwyd ef yn galonnog iawn ar gael ei ethol yn ystod Cyfarfodydd yr Undeb yn Rhosllannerchrugog, fis Mehefin 2023. Bydd Y Parchg Owain Llŷr Evans yn ddarpar lywydd nawr am ddwy flynedd hyd nes y daw Llywyddiaeth y Parchg Jeff Williams i ben yn 2025.

Dafydd-Roberts-2018-768x667-1.jpg
Cadeirydd y Cyngor

Dafydd Roberts

Etholwyd Mr Dafydd Roberts yn Gadeirydd y Cyngor yn 2017. Yn enedigol o Drefor yng Ngwynedd, gwasanaethodd yr eglwysi yn ei ardal fel Pregethwr Cynorthwyol a bu’n aelod ffyddlon ac yn gyfanwr cyson i weithgareddau’r Cwrdd Chwarter yn Llŷn ac Eifionydd. Ef bellach yw Cadeirydd y Cyfundeb. Ym myd yswyriant y mae Dafydd yn gweithio. Mae’n aelod ac yn ddiacon yn eglwys Maesyneuadd yn Nhrefor, ac wedi bod yn gefnogwr selog i’r Undeb ar hyd y blynyddoedd.

Geraint Rees.jpg
Trysorydd

Geraint Rees

Etholwyd Geraint yn Drysorydd yr Undeb yn 2023.   Magwyd ef yn Efail Isaf, ac yn y Tabernacl, capel y pentref.  Bu’n athro a phrifathro, ac yn gynghorydd proffesiynol i’r gweinidog addysg wedi cyfnodau yn llywio adrannau addysg mewn awdurdodau lleol.  Mae’n  aelod o’r tim eang o wirfoddolwyr sy’n cynnal y Tabernacl.  

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.