Oes gennych chi syniad am rywbeth y gallai eich eglwys ei wneud i gysylltu’n well gyda bywyd eich cymuned? Ydych chi’n gweld cyfle i’ch eglwys gyfrannu at gyfoethogi bywyd y bobl sy’n byw o’i chwmpas?
Yn 2025 penderfynodd yr Undeb newid amodau cynllun Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg er mwyn cynyddu’r arian a gynigir i eglwysi ar gyfer creu prosiectau cynhyrfus yn ein heglwysi, a’u gwireddu.
Penderfynwyd newid enw’r rhaglen hefyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith ein bod am annog pobl i fod yn flaengar ac achub ar bob cyfle i wneud gwahaniaeth o fewn cymunedau eu heglwysi a thu hwnt.
Felly, ar ddechrau 2026 lansiwyd y cynllun newydd sef Rhaglen Cefnogi Cyfle yr Undeb. Dyma’n cyfle ni i gefnogi cyfle drwy Gymru gyfan!
Enghraifft o waith y rhaglen yn San Clêr, Sir Gaerfyrddin, a'i effaith bositif ar y gymuned leol.
Efallai bod y syniad yn un digon syml, neu’n awgrym o gyfle yn unig, a gall bod y weledigaeth heb ei gweithio allan yn gyflawn gennych eto, ond os oes brwdfrydedd i estyn allan i’r gymuned mewn ffyrdd newydd, neu ddyfeisgarwch i dorri tir newydd mewn tystiolaeth a gweithgarwch, gall Rhaglen Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eich helpu i wireddu eich dyheadau.
Rhaglen yw hon sy’n cynnig cyfle arbennig a chyffrous i’r eglwysi hynny sy’n barod i gamu allan o’u ‘cylchoedd cysur’ a mentro ar ddulliau newydd ac arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl. Eglwysi sy’n barod i fynd yn fentrus i ganol bywyd eu cymunedau a’u hardaloedd er mwyn ceisio cwrdd ag anghenion y bobl.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyllid sylweddol, i fyny at £20,000 hyd at gyfnod o 3 blynedd, ar gyfer sefydlu a gweithredu eich cynllun. Cewch hefyd gyngor ymarferol i’ch helpu i ddeall y sefyllfa rydych yn ei hwynebu, cymorth i loywi eich gweledigaeth ac arweiniad i adnabod yr adnoddau fydd eu hangen arnoch, a phob cefnogaeth posibl i gyrraedd y nod.
Nid yw mentro yn rhwydd, ac fel mae’r gair yn awgrymu mae ‘loes’ yng nghanol pob ‘arloesi’, ond cofiwn mai rhaglen ‘Arloesi a Buddsoddi’ yw hon. Arloesi er mwyn buddsoddi yn ein dyfodol yr ydym. Mentro heddiw er mwyn gosod sylfaeni cadarnach ar gyfer yfory. Gan gofio bod y dyfodol a’r yfory hynny nid yn unig ar gyfer yr eglwys ond er lles a budd holl greadigaeth Duw.
Dyma ddogfennau defnyddiol ar gyfer mynd ati i gyflwyno cais i'r Rhaglen: