Y traddodiad Annibynnol

Mae’r Annibynwyr yn perthyn i eglwysi’r traddodiad Diwygiedig, yn ffrwyth diwygiad ac yn agored i gael eu diwygio’n gyson ac yn barhaus.

Cydnabyddir Duw yn y Drindod Sanctaidd sef; Duw, y Tad, sy’n cael ei ddangos yn Iesu o Nasareth, Duw’r Mab ac sy’n fythol bresennol yn ei Ysbryd, Duw yr Ysbryd Glân.

Tystia’r Beibl i weithredoedd mawr Duw yn hanes Israel, ym mherson Iesu Grist ac yng ngweithgaredd yr Ysbryd a than weinidogaeth yr Ysbryd daw’n Air y Bywyd i Gristnogion pob oes.

Y mae’r Annibynwyr yn arddel dwy sacrament: Bedydd (babanod a chredinwyr), ynghyd â Swper yr Arglwydd drwy’r Cymun.

Trefn eglwysig

I Annibynwyr, mae’r cwmni lleol ddaw ynghyd yn enw Iesu yn eglwys gyflawn. Cymuned yw hi, â’i haelodau, drwy gyfamodi â’i gilydd, yn datgan eu parodrwydd i gyd-fyw ac hyrwyddo bywyd y Deyrnas yng ngoleuni’r Beibl ac yn nerth yr Ysbryd Glân.

Gan mai Crist yw ei phen y mae’r eglwys yn rhydd i addoli a gwasanaethu yn unol â’i dealltwriaeth o Air ac ewyllys yr Arglwydd, heb fod yn atebol i unrhyw gorff neu berson arall.

Y Cyfarfod Eglwysig yw ei chorff llywodraethol pan ddaw’r aelodau ynghyd gyda’r bwriad o geisio, yn weddigar, feddwl Crist fel y caiff ei amlygu trwy’r Beibl a’r Ysbryd.

Darllen pellach

Hanes Annibynwyr Cymru, R. Tudur Jones

Yr Undeb, R. Tudur Jones

Yr Annibynwyr Cymraeg, R.Tudur Jones, Guto Prys ap Gwynfor, Derwyn Morris Jones, W. Eifion Powell

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.