Pwy y’m ni?

Undeb o eglwysi Annibynnol mewn perthynas wirfoddol â’i gilydd yw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Perthyn iddo ryw 370 o eglwysi o bob cwr o Gymru a thu hwnt, y mwyafrif llethol ohonynt yn gweithredu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Yn ychwanegol at hyn, mae gan yr Undeb tua 200 o aelodau personol.

Cyfryngau’r Undeb

Gweithreda’r Undeb yn bennaf drwy Gyngor yr Undeb a’i bedair Adran, sef,

  • Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-eang
  • Yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth
  • Tystiolaeth Gristnogol
  • Dinasyddiaeth Gristnogol.

Mae’r Pwyllgor Gweinyddol, sydd hefyd yn Ymddiriedolwyr yr Undeb, yn gweithredu fel pwyllgor gwaith ac yn cyfarfod fel rheol deirgwaith y flwyddyn i drafod gweithgarwch yr Undeb ac ystod eang o bynciau. Mae’r Pwyllgor Gweinyddol yn atebol i’r Cyfarfodydd Blynyddol.

Cynhelir y Cyfarfodydd Blynyddol dros dridiau yn ystod yr haf.

Staff

Staff bychan sydd gan yr Undeb. Ar hyn o bryd y mae’n cyflogi Ysgrifennydd Cyffredinol, Ysgrifennydd Gweinyddol, Cynorthwy-ydd Gweinyddol, Swyddog Cynnal ac Adnoddau, Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu, Swyddog Cyhoeddiadau a Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Wasg.

Hanes

Sefydlwyd yr Undeb yn 1871 yn Abertawe a chynhaliwyd ei gyfarfodydd blynyddol cyntaf yn Nghaerfyrddin, ym Medi’r flwyddyn ddilynol. Bu’r Annibynwyr yn bodoli yng Nghymru ymhell iawn cyn hyn, wrth gwrs, ac mae’n briodol datgan mai plentyn yr Annibynwyr, nid eu rhiant, yw’r Undeb.

Mae enw pencadlys yr Undeb sef, Tŷ John Penri yn Abertawe, yn dynodi’r ffaith bod ei wreiddiau’n ddwfn yn y Diwygiad Protestanaidd ac yng nghyffro Piwritanaidd y 16eg ganrif, sef magwrfa’r tadau annibynnol cynnar, ac yn eu plith John Penri, a ystyrir yn un o Annibynwyr cyntaf Cymru. Cyhuddwyd John Penri o deyrnfradwriaeth a chafodd ei ddienyddio yn 1593 yn ŵr a thad ifanc 30 oed.

Rhwng sefydlu’r eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn Llanfaches, Gwent yn 1639 a sefydlu’r Undeb yn 1871, tyfodd yr Annibynwyr i fod yn ddylanwad sylweddol yn y tir. Roedd y gyfundebau rhanbarthol a sirol sefydlwyd ganddynt yn gyfrwng i feithrin a chynnal eu perthynas â’i gilydd, i estyn cymorth a chefnogaeth i’w gilydd ac i sicrhau cysondeb mewn materion yn ymwneud â ffydd a threfn, â hynny ar raddfa gendlaethol a byd-eang yn ogystal ag yn lleol a rhanbarthol.

Trefn weithredol

Sefydlwyd yr Undeb i gadarnhau a hwyluso’r cydweithredu hwn. Y mae’r cyfundebau, 15 ohonynt, bellach, yn rhan greiddiol o strwythur a threfniadaeth yr Undeb ac mae pob Cyfundeb yn dewis dau gynrychiolydd o’u plith i eistedd ar Gyngor yr Undeb. Fforwm drafod yw’r Cyngor â’i gwaith yn rhannu i bedair adran: yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth, y Genhadaeth a’r Eglwys fyd-eang, Dinasyddiaeth Gristnogol a Thystiolaeth. Caiff ffrwyth y trafodaethau hyn eu hadleisio yn y Pwyllgor Gweinyddol y corff sy’n gwarchod a chyfarwyddo’r elusen ac sy’n atebol yn y pendraw i’r Gynhadledd Flynyddol. Yr eglwysi, trwy eu cynrychiolwyr ynghyd â’r aelodau unigol piau’r hawl i bleidleisio yn honno.

Cysylltiadau eglwysig

Mae’r Undeb yn aelod o Cytûn, Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang, Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd a Chymdeithas Annibynwyr y Byd.Bu’r Undeb yn frwd erioed dros hyrwyddo cyfiawnder a heddwch gan ystyried gwaith Cymorth Cristnogol yn greiddiol i’w dystiolaeth.Cyhoedda Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Y Tyst yn wythnosol a Dyma’r Undeb ac Union Matters ddwywaith y flwyddyn, ac mae’n weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.