Dyma her newydd i ni fel eglwysi ac unigolion wneud mwy o ddewisiadau gofalgar, yn enwedig wrth ystyried argyfwng yr hinsawdd a'n cyfrifoldeb ni i ofalu am y blaned a grëodd Duw.
Mae'r pum peth yn cynnwys pedwar maes i ni ganolbwyntio arnynt sef bwyd, dillad, ynni a theithio, ac mae'r pumed sef gofal, yn crynhoi ein hagwedd at y cyfan.
Ewch ati i lawrlwytho'r ffilmiau isod a'u gwylio fel cynulleidfa, mewn grwpiau trafod neu fel unigolion ac ymateb i'r her sydd ynddynt.
Mae dogfennau PDF i'w lawrlwytho sy'n cyd-fynd â phob fideo. Mae'r rhain yn cynnwys heriau ymarferol i chi eu gosod i'r gynulleidfa neu gymuned yr ydych yn perthyn iddi.
Ar waelod y dudalen fe welwch chi stôr o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys trefn oedfa, gweddi, poster i arwain eich gweithgaredd a thaflen yn llawn syniadau ymarferol.