Yn wyneb yr ansicrwydd mawr sy’n wynebu amaeth a chymunedau gwledig yn gyffredinol y dyddiau hyn, mae Undeb yr Annibynwyr wedi bod yn trafod ac yn gweithredu ffyrdd o roi cefnogaeth ysbrydol i bobl, yn ogystal â’u cyferio at gymorth ymarferol o bob math.

Rydym yn cydweithio gyda mudiadau megis Tir Dewi, yr undebau amaethyddol a’r RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution) i hysbysu ffermwyr, eu teuluoedd, a busnesau gwledig sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth, fod cymorth ar gael. Cynhyrchwyd poster gyda rhif llinell gymorth i’w arddangos mewn pob capel.

Gweithredu

Mae’r Undeb hefyd yn gweithredu ar lefel wleidyddol trwy dynnu sylw at anghenion cefn gwlad wrth i ni adael y Gymuned Ewropeaidd. Anfonwyd llythyr at Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn pwyso arno i wneud popeth bosibl i osgoi Brexit heb gytundeb, gan y byddai hynny’n cael effaith ddinistriol ar amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, ac yn bygwth dyfodol yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Anfonwyd llythyrau personol hefyd at aelodau Cymreig Tŷ’r Arglwyddi yn erfyn arnynt i wrthwynebu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, a fyddai’n trosglwyddo pwerau gwario ar seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon ac ati o ofal Llywodraeth Cymru i ddwylo gweinidogion llywodraeth y DU. Ofna’r Undeb y byddai hynny’n gael effaith andwyol ar les a ffyniant ein pobl, safonau bwyd a lles anifeiliaid, a dyfodol yr amgylchedd. Mae perygl y gallai llywodraeth y DU gytuno i ostwng safonau cynhyrchu bwyd yn Lloegr er mwyn cynhyrchu bwyd yn rhatach, a chaniatáu mewnforio bwyd rhad o wledydd eraill sydd â safonau is. Gallai hynny arwain at foddi’r farchnad yng Nghymru, lle mae dymuniad i gadw safonau uwch, gyda chanlyniadau dinistriol i amaethwyr Cymru.

Mae’r sefyllfa’n newid drwy’r amser, ond mae Undeb yr Annibynwyr a’i adrannau yn effro i’r newidiadau. Rydym yn barod i ymateb iddynt, ac i wneud ein gorau glas i warchod iechyd a lles ein pobl a’n cymunedau, yn unol â thraddodiad Cristnogol radical yr Annibynwyr Cymraeg.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.