Bywyd i Bawb: gwaith mawr ym Madagascar

Mae’n bleser gennym adrodd ar y prosiectau a gefnogir ym Madagascar drwy haelioni eglwysi ac unigolion Undeb Annibynwyr Cymru ar ôl yr ymgyrch wych i godi £157,000 yn 2018–19. Yn draddodiadol y mae ymgyrchoedd yr Undeb wedi cael eu goruchwylio gan Gymorth Cristnogol gan ei fod yn hanfodol fod yna rwydwaith genedlaethol a lleol i wneud yn siŵr fod yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i wireddu’r bwriadau sylfaenol yr apêl.

Y tro hwn, dewiswyd Money for Madagascar sydd â rhwydwaith eang ar yr Ynys Fawr fel ein partner. Mae Money for Madagascar yn elusen sydd â deng mlynedd ar hugain o brofiad o gefnogi a hybu prosiectau dyngarol ac amgylcheddol ar yr ynys. Ac er mai yng ngogledd Lloegr y mae ei chanolfan bellach, elusen â thras Cymreig yw MfM gan y’i sefydlwyd gan dau Grynwr o Abertawe ac mae’r cysylltiad gyda Chymdeithas y Crynwyr yn dal yn gryf o hyd. Fel ninnau, y mae hefyd ganddynt gysylltiad â FJKM, yr eglwys Bresbyteraidd fwyaf ym Madagascar ac fe gofiwn am ymweliad pennaeth yr eglwys, sef Pastor Ammi â Chyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Aberaeron.

Mae effaith Covid-19 wedi bod yn un drom ar yr ynys. Nid oes cyfundrefn iechyd o unrhyw fath yn bodoli y tu allan i’r dinasoedd ac hyd yn oed yn Antananarivo, prifddinas Madagascar, y mae cymorth iechyd yn llawer rhy gostus i’r rhan fwyaf o’r dinasyddion. Er bod gan Madagascar lawer o gyfoeth naturiol y mae hi’n dal i fod yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd. Ond er y cyfyngiadau ar drafnidiaeth y mae ein partneriaid yn y wlad wedi gwneud gwaith arwrol i wneud yn siŵr fod y prosiectau a arianwyd gennym yn cyrraedd at y mwyaf anghennus.

Canolbwyntir ar bedwar prosiect dros gyfnod o dair blynedd. Y cyntaf ohonynt yw canolfan blant Topaza a oruchwylir gan FJKM. Y mae nawr dros gant o blant amddifad y stryd yn mynychu’r ganolfan sy’n rhoi cartref diogel iddynt yn ogystal ag addysg a hyfforddiant ac yn fwyaf pwysig, mae’n rhoi teulu iddynt. Y mae llywodraeth Madagascar yn cyfrannu’r peth nesaf i ddim at y ganolfan ac y maent felly yn dibynnu ar elusennau, eglwysi a chyfranwyr eraill er mwyn goroesi. Y mae’r cyfraniad ariannol gan yr Undeb wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddynt yn y cyfnod diwethar lle mae bywyd wedi bod dipyn yn anoddach nag arfer.

Defnyddir yr arian i fuddsoddi mewn prosiect ffermio er mwyn gwella maeth a sgiliau’r plant. Dyma sut yr ymatebodd ceidwad y ganolfan ar ôl derbyn y rhodd: ‘Cyrhaeddodd y bws mini ym mis Gorffennaf ac mae cael cerbyd dibynadwy yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i ni. Er fod Covid wedi bod yn rhwystr, yr ydym wedi gwneud y gorau gallwn ni i fynd a’r plant i’r fferm er mwyn iddynt fwynhau’r awyr iach a dysgu sgiliau hanfodol ffermio. Yr ydym hefyd yn medru prynu bwyd mewn bulk sy’n llawer rhatach. Mae mor bwysig fod plant yn cael bwyd da a’r bwriad yw gwneud y fferm yn hunangynhaliol er mwyn cynyrchu bwyd o safon i’r plant. Yr ydym yn awr am brynu dwy fuwch er mwyn cynyrchu llaeth a mi fyddwn yn fuan yn dechrau ar y prosiect o fagu moch a buddsoddi mewn offer a hadau i gynyrchu llysiau. Yn fyr, mi fydd eich rhodd garedig yn helpu i wella ansawdd bwyd y plant, gwella ei sgiliau a gwella eu safon byw, gan gynnig dyfodol gwell iddyn nhw.’

Sefydliad i ferched yw Akany Avoko Faravohitra. Y mae’n sefyllfa hunllefus i ferched a amddifadwyd i fyw ar y stryd yn Antananarivo. Heb addysg, sgiliau, offer neu help ariannol does yna ddim dewis ond bywyd o droseddu a phuteinio. Y mae’r system yno’n cosbi’n llym am ddwyn ac yn aml mi fydd plant ifainc yn treulio misoedd yn y carchar cyn mynd i’r llys. Y mae’r cartref hwn yn rhoi awyrgylch diogel i 60 o ferched a chynnig cefnogaeth, addysg ac awyrgylch cartrefol i ferched rhwng 5 a 18 tan eu bod yn medru mynd yn ôl at ei rhieni neu byw yn anibynnol. Y mae Hanta, cyfarwyddwr dynamic y ganolfan, yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i garfan o ferched sy’n cael profiadau yn debyg iawn iddi hi. Fe’i hamddifadwyd yn ifanc a cael ei magu mewn chwaer gartref yn Ambodatrimo ar gyrion Antananarivo.

Y mae’r merched yn derbyn gofal iechyd rheolaidd mewn gwlad lle mae cwrs o antibiotic yn costio incwm pythefnos. Byddant yn derbyn addysg a hyfforddiant er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial drwy gyrsiau academaidd cyn symud ymlaen i ysgolion neu cael cyfle i ddysgu crefft. Y mae ganddynt gaffi yn y ganolfan hefyd sy’n cyfrannu rhywfaint at y costau rhedeg ond ar yr un pryd sy’n rhoi profiad gwaith i’r merched. Creu cartref cyfforddus a gofalus yw’r nod ac hyd yn oed pan fydd y merched yn gadael byddant yn dal i gael cefnogaeth Hanta a’r tîm i helpu gyda problemau a gwneud eu gorau i wneud yn siŵr fod y merched yn ffynnu yn y byd tu allan. Dywedodd Hanta, ‘Y mae’r flwyddyn hon wedi bod yn arbennig i ni wrth dderbyn y rhodd tair blynedd oddi wrth Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg ac y mae wedi ein gallu ni i wella ein cyfleusterau yn y ganolfan a phrynu offer a defnydd gwnïo, llyfrau ac adnoddau hyfforddiadol.’

Y trydydd prosiect yw partneriaeth gyda Coleg Diwinyddol Ivato. Ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant yn y coleg mae’r gweinidogion yn cael eu hanfon i ardaloedd gwahanol o’r ynys. Rhan o’u hyfforddiant yw tyfu llysiau a ffrwythau i rhoi iddynt y sgiliau i wella maeth y tir a chynyrchu bwyd iddynt eu hunain ac yn ogystal i addysgu eu cynulleidfa a’u cymuned sut i drin y tir, tyfu bwyd a thrwy hynny ddysgu gofalu am yr amgylchedd. Partneriaeth yw hwn gyda sefydliad sy’n arbenigo mewn tyfu bwyd a ffrwythau ac eisoes mae’r syfydliad yma, sef AVM, yn gweithio gyda MfM i ddysgu sgiliau tyfu bwyd i nifer o ysgolion hefyd. Dim ond newydd ddechrau y mae’r prosiect hwn ac edrychwn ymlaen i gael adroddiadau pellach dros y cyfnod nesaf.

Oherwydd Covid-19 bu peth oedi cyn medru rhyddhau’r arian i fferyllfa SAF yn Antanarivo ond y mae’r cytundeb yn awr wedi ei arwyddo. Y mae gan y sefydliad hwn arbenigedd mewn clefydau’r llygad, hyd nes derbyn rhodd yr Undeb nid oedd ganddynt y modd i brynu offer trin cataractau a mynd i’r afael â chlefydau tebyg. Y mae’r clinig hwn yng nghanol Antananarivo ac unwaith y bydd yr offer yn ei le mi fyddant yn medru darparu triniaeth i nifer fawr o bobl – rhywbeth yr ydym ni’n cymryd yn ganiataol yn y gorllewin.

Mi fydd MfM drwy eu partneriaid ym Madagascar yn derbyn adroddiadau cyson am y prosiectau sydd heb os nac oni bai yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywyd nifer o drigolion Madagascar. Edrychwn ymlaen at glywed mwy dros yr amser sydd i ddod.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.