Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn aelod o’r Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang, neu CWM (The Council for World Mission). Mae CWM yn bartneriaeth o 32 o eglwysi ac enwadau sydd yn cynnwys tua 21.5 miliwn o Gristnogion mewn mwy na 50,000 o gynulleidfaoedd mewn 40 o wledydd ar draws y byd.

Ffurfiwyd CWM ym 1977 pan unodd tair cymdeithas genhadol a’i gilydd: Cymdeithas Genhadol Llundain (yr LMS oedd yr Annibynwyr yn arfer perthyn iddi), Cymdeithas Genhadol y Gymanwlad, a Bwrdd Cenhadaeth y Presbyteriaid. Ymrwymodd aelodau CWM i rannu eu hadnoddau o arian, pobl, sgiliau a gwybodaeth er mwyn helpu eglwysi lleol i gyflawni eu gwaith a hwyluso’u cenhadaeth.

Wrth ffurfio’r Cyngor lle mae pob eglwys ac enwad yn gyfartal, a symud ei swyddfa ganolog i Singapore yn 2012, mae CWM yn datgan bod yr hen drefn genhadol o ‘Ewrop Cristnogol Gwyn’ yn anfon cenhadon ‘draw dros y môr’ wedi dod i ben; mae CWM yn rhannu adnoddau a phobl ‘o bob man i bob man.’ Cyfoethogwyd bywyd sawl cymuned a chynulleidfa yng Nghymru wrth gael cenhadon o dramor i weithio yn ein plith.

Mae eglwysi’r Annibynwyr Cymraeg wedi elwa o fod yn rhan o CWM mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd, er enghraifft:

  • trwy dderbyn grantiau i ariannu rhaglenni’r Undeb fel cynllun Y Ffordd, y Rhaglen Ddatblygu, y Rhaglen Hyfforddi, a llawer mwy;
  • dysgu am yr Eglwys fyd-eang drwy fynychu cyfarfodydd, cynadleddau a dathliadau a chroesawi ymwelwyr o eglwysi tramor i’n plith ni;
  • wrth gymryd rhan yn rhaglenni CWM, yng Nghymru a thramor, cafodd nifer o’n hieuenctid brofiadau fu’n sail i’w ffydd ac i’w hymroddiad am weddill eu hoes.

Mae CWM fel teulu mawr a’i aelodau’n rhannu un weledigaeth – llawnder bywyd trwy Grist i’r greadigaeth gyfan.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.