Gweddïau
Ar y dudalen hon fe geir amrywiaeth o weddïau y gellir eu lawrlwytho a'u defnyddio, naill ai fel defosiwn bersonol, neu mewn oedfa ar y Sul.
Dduw’r heddwch,
rwyt wedi ein galw i wneud heddwch a’n gilydd,
gweddiwn am y grym i fod yn addfwyn,
y cryfder i faddau,
y gostyngeiddrwydd i edifarhau,
yr amynedd i ddeall,
a’r dewrder i dderbyn y canlyniadau
o ddal gafael yn yr hyn y credwn sy’n iawn.
Bydded i ni ymddired yng ngallu daioni i drechu drygioni
a grym cariad i orchfygu casineb.
Gweddiwn am y weledigaeth a’r ffydd i gredu mewn byd wedi ei rhyddhau o drais.
Byd newydd lle na fydd ofn yn gyrru pobl i gyflawni anghyfiawnder
na hunanoldeb yn gwneud i eraill ddioddef.
Helpa ni i gysegru ein bywyd a’n hewyllys a’n hegni
i’r dasg o greu heddwch,
i rannu caredigrwydd,
tosturi a gobaith,
pob cyfle a gawn
Gweddiwn am yr ysbrydoliaeth a’r nerth i fod yr hyn
y cawsom ein creu i fod.
Dduw’r heddwch,
fe anfonaist dy fab Iesu,
yn Dywysog Tangnefedd
ac i fod yn heddwch i ni,
gwranda ein gweddïau
yn ei enw Ef. Amen.
O Dad, ein gweddi wrth ddod i addoli yw y cawn olwg ar y byd fel y mae dy gariad di yn ei ddangos i ni:
Byd ble mae’r gwan yn cael eu gwarchod, heb neb yn dlawd na neb yn newynu.
Byd ble mae cyfoeth y greadigaeth wedi’i rannu’n gyfartal a theg a phawb yn cael ei fwynhau.
Byd ble rhoddir gwerth ar bob unigolyn a phob cenedl yn byw mewn cytgord a pharch.
Byd ble mae heddwch wedi ei sylfaenu ar gyfiawnder, a chyfiawnder yn cael ei arwain gan gariad.
Yn ein haddoliad, rho inni’r weledigaeth hon,
a rho i ni’r dewrder i adeiladu ar y sylfaeni hyn.
Er mwyn Iesu Grist. Amen
(Addasiad o eiriau’r Archesgob Oscar Romero).
Yn wyneb y casineb sy’n rhannu pobl o wahanol genhedloedd, grwpiau ethnig, dosbarthiadau cymdeithasol, crefyddau a rhywedd
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb ein diffyg i dderbyn ein gilydd a pharchu gwahaniaethau ein gilydd
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb awydd barus pobl a chenhedloedd i berchnogi yr hyn nad yw’n eiddo iddynt
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb y trachwant sy’n ddrwg-elwa ar waith dwylo dynol ac yn dinistrio’r ddaear
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb ein heiddigedd o les a hapusrwydd eraill
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb difaterwch am dynged y carcharor, y digartref, y ffoadur a’r gweithiwr ymfudol
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb y chwant sy’n amharchu a chamdrin gwragedd a phlant
Arglwydd, maddau i ni.
Yn wyneb y balchder sydd yn ein harwain i ymddiried yn ein hunain yn hytrach nag ynot Ti
Arglwydd, maddau i ni
a thrugarha wrthym.
Dduw’r breuddwydion,
rwy’n breuddwydio am gymuned
- lle mae gwleidyddion yn gwrando mewn tawelwch
Rwy’n breuddwydio am hyn a llawer mwy
ac rwy’n dal i gredu bydd Duw yn darparu.
Amen
Gweddi o Kenya
Arglwydd, gwna ni’n anesmwyth -
pan fyddwn yn rhy hunanfodlon;
pan wireddir ein breuddwydion
oherwydd i ni fethu breuddwydio digon;
pan fyddwn, wrth fod yn orofalus,
yn hwylio’n rhy agos i’r lan.
Arglwydd, gwna ni’n anesmwyth -
pan fydd ein holl feddiannau
yn gwneud i ni golli syched am ddŵr y bywyd;
pan fyddwn,
wrth syrthio mewn cariad ag amser,
yn rhoi’r gorau i freuddwydio am dragwyddoldeb;
pan fyddwn,
wrth ymdrechu i adeiladu daear newydd,
yn gadael i’r weledigaeth o’r nef newydd bylu.
Arglwydd, cyffroa ni -
i anturio’n fwy eofn a mentro i’r cefnforoedd,
lle cawn brofi dy arglwyddiaeth ar bob storm,
a lle byddwn, wrth golli golwg ar y lan, yn darganfod
y sêr.
Yn enw’r Un a ehangodd orwelion
ein gobeithion
a gwahodd y dewr i hwylio gydag ef,
Iesu Grist.
Amen
(Awdur anhysbys, er bod rhai yn ei phriodoli i Francis Drake)
YMPRYDIO GO IAWN
Ymprydia rhag beirniadu eraill;
Gwledda ar Grist yn bresennol ynddynt.
Ymprydia rhag derbyn y drefn;
Gwledda ar greu newid.
Ymprydia rhag anfodlonrwydd;
Gwledda ar fod yn ddiolchgar.
Ymprydia rhag ddicter;
Gwledda ar amynedd.
Ymprydia rhag ymwrthod dros dro;
Gwledda ar fod yn fwy Crist-debyg.
Ymprydia rhag glynu wrth y gorffennol;
Gwledda ar gofleido rhyddid Duw.
Ymprydia rhag tristwch;
Gwledda ar lawenydd.
Ymprydia rhag y negyddol;
Gwledda ar annogaeth
Ymprydia rhag gwrthdaro;
Gwledda ar gymodi.
Ymprydia rhag hunan-ofal;
Gwledda ar dosturi dros eraill.
Ymprydia rhag amheuaeth;
Gwledda ar wirionedd.
Ymprydia rhag clebran;
Gwledda ar dawelwch
Ymprydia rhag gofidiau sy’n llethu;
Gwledda ar weddi sy’n cynnal.
Ymprydia rhag pryder;
Gwledda ar ffydd.
- Awdur anhysbys
Dduw’r Crëwr,
Rwyt wedi plannu’r ddawn greadigol ynom ni,
er mwyn i ni ddod a llawenydd a harddwch i’n byd,
a gwneud dy wirionedd a’th gariad yn fwy eglur.
Dathlwn ein creadigrwydd fel cenedl -
y rhai sy’n tywallt eu heneidiau i gerddoriaeth;
y rhai sy’n twrio’n ddwfn i’r profiad o fyw, mewn cynghanedd ac odl;
y rhai sy’n dychmygu naratif a breuddwydio stori;
y rhai sy’n rhoi lliw ar arwyneb ac yn siapio deunydd crai;
llefarwyr, dawnswyr, digrifwyr, actorion, beirniaid, cyflwynwyr,
gyda’u doniau yn llawn rhyfeddod a gweledigaeth sy’n cyfleu cyfoeth bywyd.
Bydded i’w creadigrwydd herio ein meddyliau ni a’n gwneud yn agored i ffyrdd newydd o gyd-weithio a chyd-greu.
Bydded iddo ein helpu i ail-ddychmygu ac ail-ddarganfod
y bywyd yn ei gyflawnder
sydd ar gael wrth ddilyn Iesu,
a’i gyflwyno’n greadigol newydd i Gymru heddiw.
heddiw.
Amen
Dduw gobaith a thrugaredd,
yn nhymor yr Adfent fe’th gyfarchwn di,
yn Ffrind Abraham, ein Tad yn y Ffydd.
Fel y gelwaist arno ef i deithio i ddyfodol newydd a bod yn fendith i’r holl genhedloedd,
planna ynom ni, dros yr Adfent hwn, yr un ysbryd anturus,
yr un awydd i wrando am dy lais,
yr un dirnadaeth o’th bresennoldeb cyson gyda ni
yr un ffydd i’th ddilyn i ble bynnag yr wyt yn ein harwain,
yr un penderfyniad i rhannu bendith.
Yn y dyddiau anodd hyn, cofiwn yn arbennig
am holl bobloedd y Dwyrain Canol
sy’n anrhydeddu Abraham fel Tad:
y rhai sy’n gwarchod a dathlu’r Tora,
y rhai sy’n credu yn y Gair a ddaeth yn gnawd,
y rhai sy’n dilyn y proffwyd a gafodd weledigaeth yn yr anialwch.
Ti yw Arglwydd y cymod, Duw’r aberth drud er mwyn uno dynoliaeth,
prysured y dydd pan fydd holl genhedloedd y ddaear a holl grefyddau’r byd,
yn byw dan dy fendith o gymod a heddwch.
Yn ystod yr Adfent hwn,
bydded i ni weld yn ein gilydd debygrwydd teuluol,
a chydnabod, er ein gwahaniaethau, yr etifeddiaeth sydd gennym oddi wrth ein tad, Abraham.
Ac mewn adeg o wrthdaro, ofn a thensiwn, cynnal o’n mewn ysbryd hael fydd yn dyrchafu’r ddynoliaeth gyffredin sydd yn ein huno,
gan gyfrif pob un fel ffrind,
a bod yn fendith i eraill.
Amen.
Gweddi wedi ei lleisio gan Parchg Robin Samuel:
Ior, gwna fi’n offeryn dy aflonyddwch.
Lle bo difaterwch, boed i mi herio;
Lle bo cydymffurfio, boed i mi gwestiynu;
Lle bo tawelwch, boed i mi godi llais.
Lle bo’n rhy gysurus a fawr ddim yn digwydd,
boed i mi gyffroi.
Lle bo drysau ar gau a chalonnau o dan glo,
Crea’r awydd i wrando.
Pan fydd cyfreithiau’n deddfu a phoen yn cael ei anwybyddu…
Pan fydd llais traddodiad yn boddi cri angen….
Boed i mi geisio gweithredu cyfiawnder yn hytrach na siarad amdano;
Ior, aflonydda ni,
I gadw cwmni â’r estron, yn ogystal â bod o’u plaid;
I garu’r rhai sy’n anodd eu caru, ynghyd â’r rhai gellir eu caru’n rhwydd.
Ior, gwna fi’n offeryn dy aflonyddwch.
(Awdur anhysbys)
Casi Jones sy'n ein harwain mewn gweddi bwrpasol ar gyfer y Pasg.
'Gad i garedigrwydd a gras,
amynedd ac ymddiriedaeth
adeiladu’n groesfan gref rhyngom.
Yn dy enw di y gofynnwn hyn,
fu fyw, fu farw ac a atgyfododd er ein mwyn.
Amen.'
Y Parchg Rhys Locke sy'n arwain gweddi arbennig ar gyfer Sul y Mamau.
Dyma weddi arbennig ar gyfer Sul Heddwch 2024 gan y Parchg Iwan Llywelyn Jones ar ran Y Rhwydwaith Heddwch. Mae croeso i chi ei defnyddio mewn oedfaon neu fel gweddi bersonol.
'O! crea hi yn Gymru ar dy lun' yw un o linellau enwocaf y Parchg Lewis Valentine o'i emyn 'Dros Gymru'n Gwlad'. Dyma weddi yn seiliedig ar y linell honno yn arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor
''Dduw cariad a chyfiawnder, fe'n gelwaist i fod yn bobl i Ti. Yn rhoi ac yn caru, lle bynnag yr ydym, beth bynnag fo'r gost. Faint bynnag mae'n cymryd. I ba gyfeiriad bynnag yr wyt yn ein galw. Helpa ni i ddal ati i weithio dros dy deyrnas.''
Mae'n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn Tachwedd 25, pan fydd dynion yn dangos eu hymrwymiad i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Eleni mae'r Rhwydwaith Merched wedi paratoi gweddi arbennig sy'n cynnwys bechgyn a dynion o gefndiroedd gwahanol. Mae croeso i chi rannu a lawrlwytho'r weddi hon a'i defnyddio ar y Sul. Diolch i'r cyfranwyr ac i'r Parchg Casi Jones am baratoi'r weddi.
Gweddi gan Y Panel Diogelu ar gyfer Sul Diogelu 2023.
Dydd Sul y 4ydd o Fedi yw Sul yr Hinsawdd eleni. Dyma weddi bwrpasol i'ch arwain a'ch ysbrydoli.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch dyma gerdd bwrpasol iawn gan Geraint Roberts.
Gweddi bwrpasol i'n harwain ar ddechrau'r flwyddyn hon, gyda'i gofidiau a'i gobeithion.
Wrth baratoi ar gyfer y Pasg byddwn yn rhannu gweddi yn wythnosol ar ein cyfryngau cymdeithasol.
🙏Dyma'r gyntaf gan gyn-Lywydd yr Undeb, Jill-Hailey Harries.
Darpar Lywydd yr Undeb, Jeff Williams sydd yn arwain yr ail weddi ar gyfer cyfnod y Grawys.
Llywydd yr Undeb, Beti-Wyn James sy'n arwain y weddi hon.
Alun Tudur, gweinidog Eglwys Annibynnol Ebeneser, Caerdydd sy'n arwain y weddi hon.
Cadeirydd y Cyngor Dafydd Roberts sy'n arwain y bumed weddi.
Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Parchg Dyfrig Rees sydd â'r chweched weddi yn ein cyfres.
Penllanw cyfnod y Grawys yw'r Pasg, a dyma weddi bwrpasol gan y Parchg Robin Samuel i ddathlu buddugoliaeth Crist.
Gweddi bwrpasol dros arweinwyr ein gwlad a'r sawl sydd yn dioddef yn Wcráin.
Derbyniwch ein newyddlen fisol, Rhwydwaith trwy ebost i gael y newyddion diweddaraf o’r Undeb.