Gwaith Y Cyngor
Mae Cyngor yr Undeb yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mawrth a mis Hydref, a hynny dros gyfnod o ddeuddydd yng nghanolfan Gregynog, ger Y Drenewydd, Powys.
Dafydd Roberts yw Cadeirydd y Cyngor.
Aelodau’r Cyngor yw dau gynrychiolydd o bob Cyfundeb (cyfanswm o 30), swyddogion a staff yr Undeb (hyd at 10), swyddogion y pedair Adran (hyd at 8) a rhai wedi’u hethol gan y Gynhadledd (hyd at 6). Mae hyn yn golygu bod hyd at 55 o bobl yn gallu mynychu’r Cyngor.