Ddydd Sul, 14 Medi, cynhaliwyd Cymanfa Ganu arbennig i ddathlu deucanmlwyddiant Capel Mair, Llanfair Clydogau, ger Llanbedr pont Steffan.

Adeiladwyd y capel cyntaf ar lan yr afon Teifi yn 1825, ond yn fuan cynyddodd y gynulleidfa gymaint nes i’r capel hwnnw fynd yn rhy fach ac adeiladwyd y capel presennol sy’n ddwywaith maint y cyntaf.

Agorwyd y Gymanfa ar brynhawn gwlyb ofnadwy gyda Deina Hockenhull yn estyn croeso i bawb.  Ar ôl canu’r emyn cyntaf cymerwyd y rhannau arweiniol gan Mared Jones, Llanfair Fach a Sara Davies, Nantymedd. Côr Cwmann oedd y côr gwadd gyda Sharon Dafis, ei arweinydd, yn arwain y Gymanfa ac Elonwy Pugh- Huysmans yn cyfeilio. Dewiswyd saith emyn cyfarwydd ac addas i’r dathlu i’w canu a rhwng yr emynau cawsom dair cân gan y côr. Yr unawdwyr oedd dau o aelodau’r côr, sef, Bob Brown, yn canu darn allan o’r oratorio Elias, a Kees Huysmans yn ein swyno gan ganu ‘Y Nefoedd.’ Diolch i’r ddau ohonynt.

Roedd y Capel wedi ei addurno â blodau prydferth a baner arbennig o lun y capel wedi ei chreu mewn defnydd a brodwaith gan law gelfydd y diweddar Iris Quan, Blaencwm. Roedd Capel Mair wedi bod yn bwysig iddi drwy ei hoes.

Roedd yn bleser hefyd i gael cwmni Ian Evans, Esgairmaen gynt, (fu’n drysorydd Capel Mair am 47 mlynedd), gan ei fod newydd gael triniaeth ar ei lygaid. Oherwydd hynny fe ddarllenwyd ei gyfarchion i’n llywydd, y Parchg Noel Anthony Davies o Abertawe, gan Elliw, ei nith, sydd yn ddeg oed a phleser oedd cael gwrando arni.

Balch iawn oeddem fod Noel wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn llywydd y dydd gan mai ei dad, y Parchg Anthony Davies oedd ein gweinidog o 1948 i 1957, a threuliodd Noel rhan fawr o’i blentyndod yn Llanfair a Chellan, lle roedd y teulu’n byw yn Aneddfa, Y Mans yng Nghellan. Yn ei araith soniodd am ei atgofion yma cyn symud yn ei arddegau i Pontycymer. Soniodd am ei bleser o weld cymaint, yn hen ac ifanc, gan gynnwys rhai fu’n ffrindiau chwarae, wedi dod ynghyd i ddathlu, a’i obaith y byddai’r genhedlaeth nesa yn cynnal tystiolaeth Capel Mair i’r dyfodol: ‘Tra’n llawenhau yn y dystiolaeth Gristnogol drwy Gapel Mair dros ddwy ganrif, mae angen i bawb ddal i gynnal y dystiolaeth mewn dyddiau pan mae grymoedd peryglus ar waith yn ein gwlad ac ar draws y byd. Mae angen gwerthoedd y Deyrnas arnom gymaint ag erioed.’

Gwahoddwyd pawb draw i neuadd y pentre i gael te. Roedd y neuadd wedi ei haddurno’n hyfryd a lluniaeth danteithiol wedi ei osod ar y byrddau gyda chwpanau te china’r capel, oedd yn rhodd gan Mary Jones, Y Pandy, yn 1926.

Diolch i bawb a fu’n rhan o’r paratoadau o flaen llaw ac ar y dydd.’

Addasiad o adroddiad a ymddangosodd yn Clonc Llanfair Clydogau, gan Aerwen Griffiths, Ysgrifennydd Capel Mair

 

 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.