Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw a diolch i Menna Elfyn am rannu ei cherdd newydd gyda ni, sef 'Stafelloedd', sy'n cynnwys tair cenhedlaeth o fenywod.

Meddai Menna:
'Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn tynnu sylw at fywydau merched, gwragedd o bob oed a’r heriau sy’n eu hwynebu yn ddyddiol. Er i’r diwrnod gychwyn 'nôl yn 1907 gyda phrotest am amodau gwaith tecach i ferched yn Efrog Newydd a’r galw am yr hawl i bleidleisio, mae llawer o genhedloedd ar draws y byd yn parhau i wrthod hawliau sylfaenol i ferched. '

Daw'r gerdd o'i chyfrol newydd 'Tosturi' sydd yn cael ei lansio ar 7 Ebrill yn yr Egin, Caerfyrddin.


 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.