Yn ei flwyddyn gyntaf fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, dyma fyfyrdod ar gyfer y Nadolig gan Owain Llŷr Evans, yn seiliedig ar y gân boblogaidd 'Little Drummer Boy'.
Gwnaethpwyd a chyhoeddwyd arolwg yn ddiweddar o’r caneuon Nadolig sydd fwyaf o boen i bobl. Yn y Top Ten mae un o’m ffefrynnau i.
Ie, chi’n iawn Little Drummer Boy. Neu yn y Gymraeg, 'Dewch i Weled'. Mae Little Drummer Boy wedi bod yn ffefryn gen i, ers i mi ei chlywed hi gyntaf oll. Dw i’n credu mai gan Val - lliwgar siwmperog - Doonican glywais i hi gyntaf. Bu Christmas Special Val Doonican yn rhan annatod o’n Nadolig ninnau fel teulu am flynyddoedd lawer. Mae hyn wedi cael effaith ar Geraint, fy mrawd a minnau, ond o leiaf nawr i ni’n medru siarad am y peth. Daw’r alaw o Tsiecoslofacia: The Little Drummer Boy ... parym pym pym pym. Hoffi’r alaw oedd y man cychwyn blynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn dw i ‘di dotio llwyr ar y syniad sydd wrth wraidd y gân: bachgen bach yn sefyll wrth ochr preseb y baban Iesu yn taro drwm ... parym pym pym pym! Gyda'r bugeiliaid a'r doethion, Mair a Joseff a’r baban Iesu, sydd efallai’n cysgu, mae bachgen bach yn taro a tharo a tharo’i ddrwm!
Dewch i weled, parym pym pym pym
y brenin yn y gwair, parym pym pym pym
Mae neges bwysig yn y darlun hwn. Oni ddylasid amddiffyn y bychan Iesu rhag y fath sŵn? Oni ddylai Duw a thad ein Harglwydd Iesu rhoi taw ar sŵn y drymiwr bychan!? Na. Pam? Dyma’r ymgnawdoliad: Duw yn byw yng nghanol ... parym pym pym pym y ddynoliaeth.
Nyni yw’r bachgen bach ‘ma, ac mae sŵn aflafar ein clatsio, taro ac ergydio o’n cwmpas ymhob man. Crefydda gochelgar, di-antur ... parym pym pym pym. Ffydd ddof, ddiflas ... parym pym pym pym. Creulondeb a rhyfela yn enw Duw ... parym pym pym pym. Sŵn, sŵn y drwm! Amherseinedd y drymiau!
Ond, gall Duw â’i gariad creu o’n sŵn, rythm. Rhaid cydnabod, i ddechrau ein dibyniaeth arno; sylwch: Does gennyf fi ddim byd/i’w roddi ger dy fron parym pym pym pym. Wedyn, rhaid ceisio rhoi o’n gorau i Dduw: Ond ceisio wnaf yn llon/roddi cân i Ti/fy ngorau rof i ti. Ie, fy ngorau rof i ti parym pym pym pym. Dyna gyfrinach ffydd, cariad a gobaith. Dyma’r geiriau’n Saesneg: I played my best for him. Beth amdani gyfeillion? Y Nadolig hwn ac ymlaen i 2026, rhown o’n gorau i Iesu ein harglwydd, ac yna cawn brofi o’r rhyfeddod hwn: gwenodd arna’ i’n dlws parym pym pym pym. Fi a’m drwm.