- Mae Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn trefnu gwylnos am heddwch yn Israel a Phalesteina nos Sul yma (Hydref 22) am 6yh yng Nghadeirlan Llandaf. Mae croeso i bawb fynychu ac fe werthfawrogir pob cyhoeddusrwydd.
- Mae Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) yn cyhoeddi datganiadau a gweddïau am y sefyllfa gan eglwysi a mudiadau Cristnogol ar eu gwefan. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o gyfraniadau gan aelod eglwysi Cytûn, a gellir cyflwyno mwy trwy CTBI.
- Mae Cyngor Rhyng-ffydd Cymru wedi cyhoeddi datganiad byr ar ei dudalen Facebook
- Disgwylir cyhoeddi datganiad gan Gymorth Cristnogol, ac mae swyddfeydd canolog yr eglwysi hynny sy’n noddi Cymorth Cristnogol wedi derbyn gwahoddiad i arwyddo.
Ymateb eglwysi i argyfwng y Dwyrain Canol
Erthyglau Perthnasol
Y Newyddion Diweddaraf
Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.