Mae angen gweithredu ysbryd y Nadolig i wella'r rhaniadau a gafodd eu hachosi gan bandemig Covid, yn ôl Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

"Yn ogystal â'i effaith ddinistriol ar iechyd cyhoeddus, mae digwyddiadau ac agweddau sy'n ymwneud â'r pandemig wedi achosi cryn chwerwder cyhoeddus,” meddai'r Parchg Beti-Wyn James. “Ar y naill law, mae dicter tuag at rai gwleidyddion ac eraill yr honnir eu bod wedi diystyru rheoliadau gwrth-Covid, ac ar y llaw arall chwerwder gan, ac yn erbyn, y rhai sy'n gwrthwynebu'r rheoliadau hynny.

Hunanaberth

"Ganwyd Crist i gymodi rhwng Duw a dynoliaeth, ac mae gwir angen yr ysbryd hwnnw o gymod, goddefgarwch a chariad  yn ein cymdeithas y Nadolig hwn. Roedd bywyd a marwolaeth Iesu yn un o hunanaberth llwyr. Mae bobol di-ri wedi aberthu cymaint yn ystod y pandemig hwn – ac yn dal i wneud. Mae’n amhosibl mesur maint ein diolch i staff y Gwasanaethau Iechyd a Gofal, a gweithwyr hanfodol eraill, am iddynt fynd yr ail filltir, a mwy, yn ystod y cyfnod hwn – sydd heb gynsail yn ein bywydau ni.

Cyfrifoldeb personol

"Wrth i'r argyfwng barhau mae galw arnom i aberthu ein hagweddau a'n gweithredoedd ein hunain er lles pawb. Os oes gennym gonsyrn a chariad gwirioneddol tuag at bobl eraill, yna mae gennym gyfrifoldeb personol i gymryd pob cam posibl i helpu i atal lledaeniad y feirws ofnadwy yma, yn y gobaith y byddwn yn rhydd o'r hunllef hon erbyn y Nadolig nesaf.

“Yn y cyfamser, rwy’n dymuno Nadolig hapus a diogel i bawb, gan weddïo am Flwyddyn Newydd Well i ni gyd yn 2022.

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.