Dyma adnodd ymarferol i’w ddefnyddio yng nghydestun Economi Bywyd a Newid Hinsawdd. Mae ‘Bywyd yn ei Gyflawnder’ yn cynnwys elfennau ymarferol am sut i fyw yn fwy cyfrifol yn y byd yn ogystal â syniadau ar gyfer oedfaon, myfyrdodau a gweddiau. Adnodd i’w ddefnyddio gan unigolion ac eglwysi yw hwn. Cliciwch ar y llun isod.

Yng nghyfarfod Adran Dinasyddiaeth Gristnogol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar ddechrau mis Hydref 2018 penderfynwyd ffurfio gweithgor Economi Bywyd a Newid Hinsawdd i ystyried goblygiadau yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas yn economaidd ac amgylcheddol. Mae’r adnodd hwn yn deillio o weithgaredd y gweithgor. Ni ellir ystyried y ddau gyfansoddyn hyn ar wahân, rhaid eu trafod mewn perthynas â’i gilydd. Cytunodd Cyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mai briff y gweithgor byddai rhoi arweiniad i’r eglwysi ar sut dylai’r Cristion ddelio gydag arian a’r amgylchedd. Cydnabuwyd bod cyflwr llawer o’n heglwysi yn golygu mai consýrn pennaf aelodau yw sut i gadw’r drws ar agor, ond y mae rheidrwydd arnom i weld yn ehangach na hynny.

Faint ohonoch sy’n cofio teithio i wrthdystiad Jiwbilî 2000 yng nghyfarfod G8 1998 yn Birmingham, Lloegr? Galw oeddem am ddileu Dyled y Trydydd Byd erbyn y flwyddyn 2000. Roedd yr uwchgynhadledd honno yn Birmingham, ymhlith pethau eraill, yn canolbwyntio ar sicrhau twf economaidd cynaliadwy yng nghyd-destun diogelu’r amgylchedd a llywodraethu da. Bu i’r 50,000–70,000 o wrthdystwyr greu penawdau ledled y byd; ffurfiwyd cadwyn ddynol o amgylch canol dinas Birmingham. 

Ugain mlynedd yn ddiweddarach rhaid gofyn, a ydyw pethau wedi gwella? Mae llawer o ddadansoddiadau, fel yr Adolygiad Stern a gyflwynwyd i lywodraeth Prydain, wedi rhag-weld gostyngiadau sylweddol yng nghynnyrch domestig crynswth y byd (GDP) oherwydd costau cysylltiedig â’r hinsawdd megis delio â mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol a phwysau ar diroedd isel oherwydd codiad yn lefelau’r môr. Anodd yw darogan gyda sicrwydd, ond un peth sy’n gwbl eglur, mae’r rhan fwyaf o astudiaethau gan economegwyr annibynnol yn awgrymu bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio’n negyddol ar yr economi fyd-eang.

 

‘Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’

 

Eisoes bu’r gweithgor yn trafod a dechrau datblygu adnoddau. Eisoes bu cyfle i ymgymryd â heriau amgylcheddol gan ddefnyddio deugain diwrnod y Grawys. Dros y misoedd nesaf ychwanegir gwybodaeth ffeithiol, ymdriniaethau diwinyddol a syniadau ymarferol i unigolion, eglwysi a chymunedau ymgymryd â hwy. Mae cysyniad y Jiwbilî wedi’i wreiddio mewn cydbwysedd cyfiawn a chynaliadwy rhwng realiti cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Pan fanteisir ar un newidyn i gynyddu twf un arall i’r eithaf, bydd y system gyfan yn dioddef yn y pen draw. Pan fydd un rhan o gymuned y ddaear dan straen, effeithir ar bob rhan. Yn 2020, dangosodd pandemig COVID-19 y realiti hwn ar raddfa fyd-eang. Gall y gwersi rydym wedi eu dysgu, a’r rhai yr ydym yn eu dysgu, ein cyfeirio tuag at yr angen am Jiwbilî a’n cymell i adfer cydbwysedd i’r union systemau sy’n cynnal bywyd. 

 

‘Cysegra’r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy’r wlad i’r holl drigolion: bydd hon yn flwyddyn jiwbilî ichwi a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i’w dreftadaeth ac at ei dylwyth.’

 

Dyma gasgliad o adnoddau gwerthfawr ar gyfer Sul yr Hinsawdd ar wefan Cytûn. Dilynwch y linc yma i’w darllen.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.