Yn Undeb Pwllheli ym 1920, penderfynwyd ffurfio Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr. Er i benderfyniad gael ei wneud cyn hynny, ym 1909, ni ddaeth dim o’r bwriad hwnnw. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gymdeithas ar 31 Mai 1922 yn ystod cyfarfodydd Undeb y Jiwbilî yng Nghaerfyrddin. Amcan y gymdeithas, a dyfynnu o’r cofnodion, yw: ‘Hyrwyddo ymchwiliad i hanes dechreuad a chynnydd Eglwysi a Sefydliadau Annibynnol Cymreig.’

Cafwyd anerchiad gan Thomas Shankland, llyfrgellydd Coleg y Gogledd ym Mangor ar ‘Anghydffurfwyr ac Ymneilltuwyr cyntaf Cymru’ a chafodd ei gyhoeddi yn rhifyn cyntaf Y Cofiadur, cylchgrawn y Gymdeithas ym 1923. Mae’r Cofiadur yn dal i gael ei gyhoeddi.

Yr arfer oedd cynnal cyfarfod y gymdeithas yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb ond, ers rhai blynyddoedd bellach, fe’u cynhelir ar adegau gwahanol mewn amrywiol lefydd yn y de a’r gogledd ar ffurf darlith neu anerchiad.

Mae’r Gymdeithas Hanes yn annog yr eglwysi i ddiogelu cofnodion a dogfennau, yn arbennig felly pan fo achosion yn dod i ben, gan eu trosglwyddo i ofal y Llyfrgell Genedlaethol neu’r archifdy lleol.

Y Cofiadur

Mae'r Gymdeithas Hanes yn cyhoeddi cylchgrawn sydd yn cynnwys erthyglau amrywiol. Yn y rhifyn diweddaraf ceir erthygl yn nodi can mlwyddiant ers i fenywod Cymru gasglu deiseb o bron i 400,000 o enwau yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chygrair y Cenedloedd.  Catrin Stevens sydd yn trafod 'Ewyllys Unedig Menywod dros Heddwch y Byd'. Ceir erthygl gan Gareth Ffowc Roberts am yr  athronydd radicalaidd ac awdur, Richard Price: 'Damwain a hap ac athrylith Richard Price (1723–91)'

Cliciwch ar y llun isod i lawrlwytho'r Cofiadur.

Gweithgaredd

Yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yng Nghaerfyrddin yn 2022 fe draddododd y Parchg Ddr Geraint Tudur ddarlith i nodi'r hanner canrif ddiwethaf yn ein hanes. Gellir gwylio 'Yr Olaf o Win yr Haf' o'r ffrwd fyw isod.

Wrth ddathlu cant a hanner o flynyddoedd ers sefydlu'r Undeb, fe gyhoeddwyd fideo i ddathlu gwaith y gweithwyr a fu'n gwasnaethu yn Nhŷ John Penri dros y blynyddoedd. 

I ddathlu sefydlu'r Undeb yn 1871 cynhaliwyd darlith gan yr Athro Prys Morgan, union ganrif a hanner yn ddiweddarach, yng nghapel Ebeneser, Abertawe ar Hydref 12 2021.

Yn mis Chwefror 2021 fe draddodwyd darlith y Gymdeithas Hanes dros gyfrwng Zoom, gyda'r Parchg Ddr Alun Tudur yn traddodi darlith ar 'Y Pla ac Ymateb yr Eglwys'.

 

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.