Mae Sul Diogelu ar 16eg TACHWEDD 2025. Neilltuwch eich gwasanaeth i gyd neu ran ohoni i ddiogelu, neu ddewiswch dyddiad arall!
Mae SUL DIOGELU yn ffordd wych o ddangos bod diogelu yn rhan o'n ffydd mewn Duw cyfiawn a chariadus, codi ymwybyddiaeth o ddiogelu ac alluogi eglwysi i rannu rhywfaint o'r gwaith da y maent yn ei wneud i ofalu am ac amddiffyn pobl.
Mi fydd 2025 y bedwaredd flwyddyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a'r Panel Diogelu Cydenwadol annog eglwysi i gynnwys Sul Diogelu yn eu calendr eglwysig blynyddol.
Mae Sul Diogelu yn fenter cychwynodd gan Thirtyone:eight, elusen diogelu Cristnogol sy'n gweithio ac yn ysbrydoli eraill i 'siarad ar ran y y bobl sydd heb llais” fel y dywed yn Diarhebion 31:8 o ble mae eu henw yn dod.
Yn 2022 a 2023 cynhyrchodd y Panel gwasanaeth dwyieithog a ffilm pwrpasol ei hun. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym yn falch iawn bod Thirtyone:eight, wedi cynhyrchu mwy o adnoddau Cymraeg.
Y llynedd ledled y DU, cymerodd dros 5,000 o eglwysi ran yn y Sul Diogelu. Eleni, gyda'ch help chi, gallwn helpu i godi ymwybyddiaeth a gwneud ein heglwysi yn lleoedd mwy diogel i bawb.
I gymryd rhan, gallwch gofrestru am ddim. Byddwch yn derbyn canllaw ac adnoddau ar-lein i’ch helpu chi cynnal gwasanaeth cyfan, neu ran o wasanaeth, yn hawdd. Mae'n cynnwys gweddïau, nodiadau pregeth, syniadau gweithgareddau, adnoddau plant a mwy.
Am ragor o wybodaeth? Darllenwch y cwestiwn cyffredin yma
neu ewch i wefan y Panel Diogelu Cydenwadol