Eleni mae'r Panel Diogelu Cydenwadol yn eich annog i ymuno â miloedd o eglwysi ar draws y DU i dynnu sylw at bwysigrwydd amddiffyn pobl fregus fel rhan o Sul Diogelu.
Bydd Sul Diogelu yn cael ei chynnal eleni ar 19 Tachwedd, (sy’n cyd-fynd â'r Wythnos Genedlaethol Diogelu Oedolion). Os nad yw'r dyddiad hwn yn gyfleus, beth am ddewis Dydd Sul arall, neu ddefnyddio rhan o’ch gwasanaeth arferol i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu yn eich eglwys? Ar draws Prydain - cymerodd dros 2,000 o eglwysi ran llynedd, ac rydym yn gobeithio y bydd yna ragor eleni.
Eleni am y tro cyntaf mae'r Panel Diogelu Cydenwadol wedi cynhyrchu gweddi yn arbennig ar gyfer y diwrnod. Gellir lawrlwytho'r weddi uchod wrth bwyso ar y gair 'Vimeo' a dod o hyd i 'download' ar y dudalen nesaf.
Mae'r Panel wedi cynhyrchu gwasanaeth gyfan ar gyfer y Sul hefyd. Gellir dod o hyd i'r adnoddau fan hyn.