Mae mynwentydd yn gartref i rywogaethau amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae cyfle arbennig i Eglwysi Annibynnol ymuno ag ymgyrch genedlaethol i ddathlu byd natur.
Bwriad wythnos ‘Eglwysi’n Cyfrif Natur’ yw tynnu ein sylw at y cyfoeth o natur sydd ger ‘stepen drws’ ein capeli. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf cynhaliwyd 900 o ddigwyddiadau ar draws Cymru a Lloegr gan gofnodi 27,000 o fathau o fywyd gwyllt yn ein mynwentydd.
Eleni fe gynhelir yr arolwg rhwng 3-11 Mehefin, ac rydym yn cael ein hannog i sylwi a chyfri’r rhywogaethau gwahanol, boed yn bryfed, yn anifeiliaid neu'n blanhigion.
Cynhelir yr arolwg ar y cyd ag elusennau amgylcheddol A Rocha UK a Caring for God’s Acre, ynghyd ag enwadau ac eglwysi eraill.
Defnyddir y data i benderfynu lle mae rhywogaethau prin ac mewn perygl, ac i gynorthwyo eglwysi o bob enwad i gynyddu bioamrywiaeth ar eu tir er mwyn cyfoethogi’r amgylchedd a chymunedau lleol.
Llonyddwch
Mae mynwentydd yn llefydd unigryw, yn fannau gwyrdd, tawel sydd yn aml heb eu tarfu na’u datblygu ers canrifoedd. Gobaith y cyfrif yw codi ymwybyddiaeth o’r llefydd arbennig hyn ac i annog gofal amdanynt, gan ddod â chymunedau ynghyd i ddathlu'r bywyd toreithog sydd ynddynt.
Yn ystod yr wythnos fe fydd cyfres o weminarau yn cael eu cynnal ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ‘Cyfarwyddyd ymarferol i ofalu am fynwentydd’ ac ‘Eco Church, Rheoli Tir Eglwys’.
I gofrestru yn rhad ac am ddim, dilynwch y ddolen hon.