Dyma fwletin gan Swyddog Polisi Cytûn, y Parchg Gethin Rhys i dynnu’ch sylw at ddau newid yn y sefyllfa yng Nghymru. Mae’r rhain eisoes wedi eu cynnwys yn y wybodaeth ar eu gwefan 

  1. Yn dilyn y newidiadau yn Lloegr heddiw, nid yw’r codau QR ar ap Covid-19 Cymru a Lloegr bellach yn weithredol fel modd o gofnodi presenoldeb. Os ydych wedi cofrestru’ch adeilad gyda’r ap, fe ddylech fod wedi derbyn ebost am hyn heddiw gan Lywodraeth y DU. Yn anffodus, nid yw’r Gymraeg a’r Saesneg yn yr ebost hwnnw yn cyfateb. Y Gymraeg sy’n rhoi’r wybodaeth gywir. Y wybodaeth honno yw nad oes modd defnyddio’r codau QR o heddiw ymlaen, ond mae’r gorchymyn yn yr ebost Saesneg y dylech beidio â chasglu manylion presenoldeb yn anghywir. Yn lle hynny, os yw’ch asesiad risg yn cynnwys cadw cofnod o bresenoldeb mewn unrhyw weithgarwch, fe fydd angen i chi gadw cofnod ar bapur neu ar declyn (megis iPad) lleol. Dylech sicrhau storio a dinistrio’r wybodaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yng Nghymru yn parhau yn weithredol.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yng Nghymru o Ddydd Llun Chwefror 28 ag eithrio mewn siopau, lleoliadau iechyd a gofal, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dylai eglwysi sy’n cynnal siopau neu yn lletya gwasanaeth gofal sicrhau fod gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau yn y mannau hynny. Fe fydd yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru i lunio, cofnodi a gweithredu asesiad risg ar gyfer pob gweithgarwch, ac os yw’r asesiad risg yn dynodi hynny, gellir parhau i fynnu bod mynychwyr yn gwisgo gorchudd wyneb.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.