Mae’n bleser cyhoeddi mai Elinor Wyn Reynolds fydd Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gan olynu’r Parchg Dyfrig Rees yn y swydd.
Mae Elinor yn aelod yn Eglwys y Priordy ac wedi bod yn gweithio yn Nhy John Penri ers rhai blynyddoedd gan ofalu am gyhoeddiadau’r Undeb.
Elinor yw’r lleygwr cyntaf ers can mlynedd i dderbyn y swydd hon. Hi yw’r ferch gyntaf i gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol yn hanes yr Annibynwyr.
Dywed Elinor “Mae’n fraint gynhyrfus cael fy ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfnod nesaf. Gyda’n gilydd mae gennym waith i’w wneud."
Bydd Elinor yn cael ei chyflwyno'n swyddogol yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb sydd i'w cynnal yn Nant Gwrtheyrn rhwng y 25-27 o Fehefin eleni.