Mae yna foddhad arbennig i’w gael wrth ailddefnyddio rhywbeth o gyfnod a fu i greu rhywbeth newydd, ffres.
Mae’r cwilt yn y llun yn rhyw 100 oed, ond heb gael ei ddefnyddio ers meitin, wrth i arferion dillad gwely newid gyda’r oes.
Braf iawn, felly, yw dod o hyd i ddiben newydd iddo a’i ddefnyddio i gyfleu neges bwysig i’r dyfodol.
Bydd unrhyw un sy’n galw heibio pabell Cytûn yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon yn cael cyfle i ysgrifennu neges neu dynnu llun ar ddarnau o ddefnydd fydd yn cael eu hailgylchu a’u pwytho ar y garthen. Y gobaith yw y bydd y cyfanwaith yn cyfleu gobeithion pobl ifanc Cymru ar gyfer y dyfodol, gan roi sylw arbennig i faterion amgylcheddol.
Prosiect ar y cyd yw hwn gan Undeb yr Annibynwyr ac A Rocha UK, ac fel y dywedodd Dr Fiona Gannon, Cadeirydd Gweithgor Amgylcheddol yr Annibynwyr:
‘Mae rhai darnau o ddefnydd wedi dod i law eisoes, yn amlygu pethau fel anifeiliaid sydd mewn perygl o farw allan, argyfwng bwyd ein cyfnod ni, a negeseuon trosfwaol fel cariad a gobaith. Os ydych chi’n dod i Lanymddyfri yr wythnos nesa, cofiwch alw heibio’r babell i ychwanegu eich neges chi.’
Dywed Delyth Higgins, Swyddog Eco Church Cymru gyadg A Rocha UK:
'Gwych yw cael y cyfle i gydweithio ar weithgaredd mor greadigol a hyn. Ry’ ni’n edrych ymlaen i weld y garthen yn llawn o negeseuon a dyheuadau pwrpasol oddi wrth bobl ifanc Cymru- cofiwch alw draw!’