Wedi dwy flynedd o fethu cynnal ein gŵyl flynyddol, ˈroedd trydydd Sul mis Medi eleni yn ddydd o ‘lawen chwedl’ i ni fel eglwys wrth ein bod yn cael cyfle i ddiolch i Dduw am 20 mlynedd o fod dan arweiniad a gweinidogaeth y Parchedig Owain Llŷr Evans, meddai Bethan Jones o Eglwys Minny Street.

Nododd Owain Llŷr y garreg filltir hon mewn modd arbennig ac unigryw yn ystod yr oedfa foreol ... gyda phregeth 20 pen! Gan fras ddilyn yr wyddor (gydag ambell eithriad!) bu iddo ein tywys drwy yr hyn a nodweddai’r cydweithio, cydaddoli a chyd-dystio a fu rhyngom fel eglwys a bugail dros yr 20 mlynedd: Amddiffyn ac arweiniad; Braint; Cariad; Deall; Dal-i-fynd-rwydd; Ffydd; Gwarchod; Hynt a helynt; Iesu yn y canol; Meddwl; Nesáu; Pwyll ac amynedd; Anwyldeb; Rhannu; Sancteiddrwydd; Tynnu ein pwysau; Estyn cymorth; Undod; Wyneb yr Arglwydd; ac Ystyried. Yna, un pen ychwanegol – Diolch! Diolch am yr hyn a fu, diolch am yr hyn sydd a diolch am yr hyn sydd eto i ddod wrth ein bod, yn gyfysgwydd â’n gilydd, yn cerdded ymlaen yn ffyddiog mewn diolch, ffydd a gobaith i ogoneddu ein Harglwydd Iesu Grist.

Cymdeithasu

Daeth cyfle ar ôl yr oedfa foreol, dros gymdeithas, cwpaned o de, danteithion blasus a chacen arbennig, i ddatgan ein gwerthfawrogiad o weinidogaeth ddisglair ein gweinidog. Bethan Jones, ysgrifennydd yr eglwys, fu’n enau agoriadol i ddiolchgarwch yr eglwys: ‘mae pob un ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf, i ddefnyddio un o hoff ymadroddion y gweinidog, yn gwybod yn iawn am ei weinidogaeth llawn bendith, ei gyfeillgarwch, ei allu a’i ddoniau niferus ac eang.’ Ac wrth sôn yn benodol am y 30 mis diwethaf yn dilyn y penderfyniad anorfod ’nôl ym mis Mawrth 2020 i hepgor, am y tro, pob gweithgaredd yn y capel, atgoffwyd pawb o’r ddwy daflen oedfa a ddosbarthwyd ar ddechrau’r cyfnod ... ac am y 60 taflen ddilynol, ynghyd â thaflenni gweddi ychwanegol, fu’n fodd i sicrhau ein bod, hyd yn oed pan nad oedd modd ‘dod’ i’r capel, yn medru cyd-addoli dan arweiniad ein gweinidog. Cyflwynodd Eleri Morgan, un o ddiaconiaid yr eglwys, gywydd o waith Llŷr Gwyn Lewis (un o’n diaconiaid sydd bellach hefyd yn brifardd ond a oedd yn methu bod yn bresennol). Cywydd oedd hwn a oedd yn cwmpasu holl waith a doniau Owain Llŷr yn ein plith ac yn crynhoi gwerthfawrogiad y gynulleidfa gyfan am ei arweiniad dros yr 20 mlynedd.

Braint ac anrhydedd

Cafwyd cwmni cyfeillion o nifer o eglwysi Cymraeg y ddinas yn yr oedfa hwyrol. Y Parchedig Jill-Hailey Harries, cyn-Lywydd yr Undeb oedd ein cennad gwadd a chyfeiriodd ein sylw tuag at Sardis a’r angen i ddeffro (Datguddiad 3:1-6). Mewn cymdeithas gyd-eglwysig yn dilyn y daeth y Sul arbennig iawn hwn yn hanes eglwys Minny Street i’w derfyn. Cawsom gyfle i ddiolch am weinidogaeth ysbrydoledig ein Gweinidog, i ailgysegru ein hunain fel gweithwyr i’n Harglwydd a throsto, yn y flwyddyn waith newydd, ac i sylweddoli’r fraint a’r anrhydedd, a’r ddyletswydd, a ddaw i ni o gael ein galw’n Ddisgyblion Crist.

Bethan Jones

Owain

 

Un dyn yw hwn, ond yn naws

Owain, y mae ’na liaws:

Owain sy’n ddegau lawer.

Owain yr hwyl, Owain yr her,

Owain gain, neu fel y gog;

ei wên, a’i ddadl finiog.

 

Digymar ddyfeisgarwch,

a’r dycnwch llwyr sy trwy’r trwch,

y brêns a’r dyfalbarhau

yw Owain a’i holl liwiau.

Owain ddawnus wyddonydd

ddeisectia fformiwla’n ffydd;

gŵr hoff o’i wasgod a’i grys,

Owain y torchwr llewys,

a’r llenor all greu lluniau

byw, rhwydd, o’n crefydda brau.

 

Owain ddoeth, Owain ddethol,

Owain ddwl iawn, neu ddi-lol,

Henadur cri’r weddi wâr,

a hogyn y teis lliwgar.

Owain friliant â’r plantos,

Owain wych yr oedfa nos,

Owain hefyd y nofiwr

bob dydd yn wyneb y dŵr.

 

Owain ffaeledig ddigon,

yn un o bawb yn y bôn,

ond i Owain, y duwiol

drwy’r heriau i gyd ydi’r gôl;

llawn dwyster a her a hwyl

yw’n hynod Owain annwyl.

 

Gall daro a’n llorio’n llwyr,

nid â’i sŵn, ond â’i synnwyr:

Owain y gras a’r rasel,

y gair mân a’r dagrau mêl,

yr ‘Amen’ hir, a’r mwynhad,

y gair ysgafn sy’n groesgad.

 

Owain y gwaith diddiwedd,

driw i bawb o’u crud i’r bedd,

pob un o’r rhain, Owain yw

o hyd. Ein Owain ydyw,

a braint yw, i bawb o’r rhain,

rhoi’n diolch i’n ffrind, Owain.

 

Llŷr Gwyn Lewis

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.