Croeso i dudalen Darlithoedd Cyhoeddus Undeb yr Annibynwyr.
Gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnal darlithoedd; rhai yn rhithiol, ac eraill wyneb yn wyneb. Bydd rhai yn cael eu traddodi gyntaf yn yr encil flynyddol, eraill mewn dyddiau hyfforddiant, a phinacl y cyfan yw’r ddarlith goffa flynyddol, sef Darlith Goffa Dr Pennar Davies a’r Dr R. Tudur Jones.
Er mwyn sicrhau cyfle i bawb fwynhau cyfloedd a sylwedd cynnwys y darlithoedd hyn, gellir eu gwylio’n ôl yma.
Hyderwn y cewch flas ar y gwrando, a’ch cyfoethogi gan y cynnwys a’r arweiniad.
Carwyn Siddall
Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu