Diolch Salem i’r Parchg J. Ronald Williams ar ei ymddeoliad fel gweinidog

Sul y Pasg ydy’r Sul pwysicaf yn y calendr eglwysi i ni sy’n Gristnogion. Mae arwyddocâd arbennig mewn dod at ein gilydd i ddathlu atgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Roedd hyn yn wir yn Salem eleni. Ond roedd rheswm arall fod y Sul yn un arbennig i ni fel eglwys am mai dyma Sul olaf y Parchg J. Ronald Williams fel ein gweinidog.

Rhaid mynd yn ôl i 1979 i nodi Sul cyntaf Ron Williams fel gweinidog Salem. Daeth i Gaernarfon efo Rhian, ei wraig a’u dau o blant: Mererid a Peredur, a hynny yn dilyn cyfnod o weinidogaethu yn Tabernacl Pen-y-bont a Bethania Cwmafan, sef yr eglwys ble gafodd ei ordeinio. Yn fuan ar ôl cyrraedd Caernarfon cafodd Heddwen ei geni ac roedd teulu bach Llety’r Bugail yn gyflawn. Er, erbyn hyn mae’r teulu bach yn deulu o 15 (a 4 ci!) pan fydd pawb yn llwyddo i ddod at ei gilydd.

Gweithgar

Bu’r 45 mlynedd yn gyfnod prysur ac er ei fod yn dad i mi, mae’n deg ddweud ei fod wedi bod yn weinidog gofalus o’i braidd ac yn arweinydd brwdfrydig a doeth. Ymestynnai ei weinidogaeth i bob rhan o gymdeithas gan roi popeth i wasanaethu ei Arglwydd ac i rannu Ei Efengyl ymysg aelodau hen ac ifanc a drwy ei waith o fewn y gymuned; yn benodol efo grwpiau fel Taro Fewn, Cyfeillion Ysbyty Eryri ac yn arbennig GISDA lle bu’n sylfaenydd a chadeirydd am fwy nag un cyfnod.

Cydlafurio

Yn 2006 daeth ychydig o newid i drefn y weinidogaeth yn Salem ar ôl i mi gael fy ordeinio i gyd-weinidogaethu, er mwyn i JR gael lleihau ychydig ar ei lwyth gwaith ac yntau’n pasio’r ‘oed ymddeol swyddogol’! Er, dwi ddim yn siŵr a lwyddodd i wneud hynny chwaith. Bu mor ymroddgar wrth gyd-weinidogaethu â mi ag y bu cyn hynny. Rhaid dweud i’r naw mlynedd o gyd-weinidogaethu fod yn hynod werthfawr i mi. Rydan ni’n ffodus ein bod ni’n cyd-dynnu yn dda ac yn deall ein gilydd. Ond roedd cael cyd-weinidogaethu â gweinidog profiadol yn amhrisiadwy mewn gwirionedd.

Mae unrhyw un sy’n adnabod JR yn gwybod nad yw’n un sy’n hoffi ffỳs! Gweithiwr diwyd a thawel fu Dad erioed. Roedd Salem, wrth gwrs am nodi’r achlysur, ond mynnodd y byddai paned wedi’r oedfa yn ddigon. Dylid nodi i’r eglwys ddathlu deugain mlynedd ei weinidogaeth yn anrhydeddus ac fel y dywedodd; ‘Doedd hynny ond 5 mlynedd yn ôl!’ Ond pa well ffordd i ddathlu dros ddeugain mlynedd o weinidogaeth na chydag oedfa bore’r Pasg; oedfa o ddathlu a gorfoleddu. Gwn mai dathlu Crist ac nid fo’i hun fyddai JR am wneud, ond roedd yn bwysig nodi’r achlysur a chael cyfle i ddiolch iddo am ei weinidogaeth. Mynegodd gymaint o aelodau eu diolch iddo am ei arweiniad a’i ofal fel bugail iddynt. Cafwyd gair swyddogol o ddiolch ar ran yr eglwys gan Ifor ap Glyn a chyflwynwyd tysteb anrhydeddus gan yr eglwys gan drysorydd yr eglwys, Alun Jones.

Cefais i syrpréis ar ddiwedd yr oedfa hefyd wrth i Dad basio baton pren ymlaen i mi! Roedd y baton wedi ei ‘droi’ o bren y capel gan organydd, ac un o ymddiriedolwyr yr eglwys, Mr Ieuan Jones. Cafodd Dad gyfle hefyd i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y blynyddoedd; yn enwedig i Mam – Rhian – am ei chefnogaeth gyson.

Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd paned a chacen i nodi’r achlysur yn y festri a chyfle i rannu atgofion a pharhau i ddiolch am oes o wasanaeth.

O.N. Nid yw JR wedi ymddeol yn llwyr o’r weinidogaeth ordeiniedig gan ei fod yn parhau i weinidogaethu yn y Tabernacl, Porthaethwy, ble mae’r galwadau arno’n dipyn ysgafnach. 

Mererid Mair 

Mai 2025

 

Dyma ddwy gerdd a gyfansoddwyd gan Ifor ap Glyn. Ysgrifennodd y gyntaf rhyw ddwy flynedd yn ôl ar gais gan Gisda pan oedd Ron yn ymddeol fel cadeirydd ac aelod o’r bwrdd ar ôl blynyddoedd lawer. Ysgrifennwyd yr ail gerdd yn arbennig ar gyfer bore Sul y Pasg eleni.

 

Y gŵr sydd â Gisda’n ei galon 

(i Ron Williams) 

Nid aeth efe o’r tu arall heibio, 

– y gŵr sydd â Gisda’n ei galon – 

ond arhosodd yn hytrach hanner einioes 

yn herio anghyfiawnder, drwy hybu a helpu, 

drwy ymgeleddu’r rhai heb do, heb dân. 

 

Y gŵr sydd â Gisda’n ei galon 

fu’n gadarn ei gadeiryddiaeth, 

yn saernïo dadl yn dawel, 

yn llifio problemau, llyfnu anawsterau, 

gan asio trawstiau croes, er creu to. 

 

Deallai fod parch wrth gael drws ffrynt, 

fod gobaith yn goleuo’r ffenestri, 

wrth roi’r allweddi mewn llaw ifanc; 

gwyddai fod gwerth i’w efengyl ymarferol, 

mai ‘oedfa’ gydol wythnos yw’r Dre, 

a ‘gwasanaeth’ gydol oes. 

 

Y gŵr sydd â Gisda’n ei galon 

a’n bendithiodd â blynyddoedd lu 

o fugeilio’r defaid di-gorlan. 

A diolchwn yn daer am ddiwydrwydd ffyddlon 

y gŵr fydd â Gisda, hyd byth yn ei galon. 

 

Gweinidogaeth Ron yn Salem 

(1979–2025)

‘Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd’ 

Amser i gladdu, ac amser i gymuno, 

amser i briodi, ac amser i fedyddio 

 

Amser mynd i’r winllan er llafurio, 

ac amser i roi’r rhaw a’r cryman heibio 

(canys eraill a ddaw, i ailgydio 

yn dy waith, i’w barhau heb ddiffygio) 

Amser i ddathlu’r hyn sy’n goroesi; 

amser addasu, ac amser arloesi 

 

Amser clwb plant a rhamant drama’r geni; 

amser AnniMeth, a chyfle i’r ifainc gyfrannu. 

Amser i’w hyfforddi ymhen eu ffyrdd, 

amser i blannu, ac i feithrin egin gwyrdd. 

 

Amser i ddiolch, ac amser i gofio 

yr holl ysbrydoli, y cynghori a’r cysuro 

Amser i weddïo 

am foddion gras mab Mair 

Ac amser i addoli 

ac i geisio gwirionedd y Gair 

 

Amser i wynebu pob her, 

â siarad cwrtais, ond plaen. 

Ac amser i ddiolch eto, 

am gymaint ... wrth edrych ymlaen. 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.