Mae parodrwydd miloedd o bobl i agor eu cartrefi i ffoaduriaid yn arwydd bod ysbryd yr Iesu atgyfodedig ar waith mewn ffyrdd gweithredol yn y byd heddiw, meddai’r Parchg Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ar Sul y Pasg. 

Ar y llaw arall, meddai, byddai cau’r drws yn wyneb ffoaduriaid trwy anfon hwy i Rwanda yn hollol groes i ysbryd tosturiol a chariadus y Pasg.  

‘Mae’r Pasg yn ŵyl sy’n cynnig gobaith newydd i ni. Bydd y cynllun gwarthus hwn yn chwalu gobeithion ffoaduriaid am fywyd gwell a mwy diogel. Mae e hefyd yn darlunio’r Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth ddidostur a ddigroeso.’ 

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.