Aeth 30 mlynedd heibio ers i’r mudiad Open Doors ddechrau cyhoeddi Rhestr Wylio Fyd-eang yn cofnodi sefyllfa Cristnogion dan erledigaeth. Pan gyhoeddwyd Rhestr Wylio 2023 yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad yn Senedd San Steffan, yr oedd un o bob saith o Gristnogion ledled y byd yn cael eu herlid oherwydd eu ffydd. Cânt eu targedu yn aml mewn ymosodiadau, fel treisio, herwgipio, a hyd yn oed eu lladd.

Brawychus

Yn ôl yr ystadegau a lwyddodd y mudiad i’w casglu y llynedd, fe fu farw 5,621 o Gristnogion oherwydd eu ffydd. O’r 360 miliwn o Gristnogion sy’n wynebu erledigaeth yn ddyddiol, mae 312 miliwn yn byw yn y 50 gwlad sy’n ffurfio’r rhestr hon, yn ôl yr adroddiad. Gogledd Corea, Somalia ac Yemen yw’r gwledydd mwyaf peryglus i fyw ynddynt fel Cristion eleni. Afghanistan oedd ar ben y rhestr y llynedd. Ar ôl i’r Taliban gymryd yr awenau yn 2021, dienyddiwyd llawer o Gristnogion wrth i’r oruchwyliaeth newydd fynd o ddrws i ddrws er mwyn dileu Cristnogaeth. Fodd bynnag, mae Afghanistan bellach wedi disgyn i rif naw ar y rhestr. Ond dywedodd Henrietta Blyth, Prif Swyddog Gweithredol Open Doors y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yn yr adroddiad nad yw’r gostyngiad o ran safle o reidrwydd yn golygu gwelliant yn yr amodau i Gristnogion yn y wlad. ‘Mae’n ymddangos mai’r rheswm am y gostyngiad hwn yw lleihad sylweddol yn y sgôr trais. Ac mae hynny naill ai oherwydd bod y Cristnogion wedi ffoi o’r wlad, neu eu bod nhw eisoes, yn drist iawn, wedi cael eu lladd, neu eu bod yn gorfod cuddio. Dim ond marwolaethau a digwyddiadau o drais rydyn ni’n gallu eu cadarnhau y byddwn ni’n eu hadrodd ... Ddylai pobl ddim cael eu twyllo i feddwl bod pethau wedi gwella i’n brodyr a’n chwiorydd yn Afghanistan. Yn bendant, dydyn nhw ddim.’ Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio am don o drais crefyddol yn Affrica is-Sahara sy’n ansefydlogi’r rhanbarth, gyda miloedd o Gristnogion yn cael eu targedu gan grwpiau Islamaidd. Mae grwpiau fel Boko Haram yn anafu,  treisio a herwgipio credinwyr er mwyn dileu presenoldeb Cristnogaeth. ‘Pe bai trais yn unig faen prawf ar gyfer y rhestr, Nigeria fyddai’r uchaf ar y rhestr,’ ychwanegodd Blyth. ‘Mae mwy o Gristnogion yn marw yn Nigeria nag mewn unrhyw wlad arall. Mewn gwirionedd, mae 90 y cant o’r marwolaethau a gofnodir gennym ymysg ein brodyr a’n chwiorydd Cristnogol yn digwydd yn Nigeria. Y llynedd, lladdwyd dros bum mil o bobl yno. Ac mae’n ymddangos bod hyn bellach mewn perygl o ansefydlogi’r rhanbarth cyfan, sy’n achos pryder mawr.’

Tsieina a Gogledd Corea

Rhybuddiodd yr elusen hefyd am sefyllfa Cristnogion yn Tsieina, gyda’r llywodraeth gomiwnyddol yn gweithredu rheolau newydd ar ddefnyddio’r rhyngrwyd i wasgu mwy ar eglwysi tanddaearol a chyfyngu ar ddeunydd crefyddol. Gan gyrraedd y sgôr uchaf erioed yn hanes y rhestr, mae Gogledd Corea wedi dychwelyd i rif un ar y rhestr eleni. Yn ôl y mudiad Open Doors, mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y Cristnogion sydd wedi cael eu harestio yno, â mwy o eglwysi tanddaearol yn cael eu darganfod a’u cau.

Rheswm arall pam y mae Gogledd Corea yn ôl ar frig y rhestr yw’r ddeddf newydd sy’n cael ei gorfodi ar y rhai sy’n meddwl mewn ffordd sy’n groes i ddymuniadau’r llywodraeth (‘anti-reactionary thought law’). Yn ôl y ddeddf hon, mae’n drosedd bod ag unrhyw ddeunydd cyhoeddedig o darddiad tramor, gan gynnwys y Beibl, yn eich meddiant. Caiff y ddeddf hon hefyd ei defnyddio i chwilio am eglwysi a chredinwyr tanddaearol. ‘Mae Gogledd Corea wedi targedu Cristnogion a Christnogaeth erioed. Dyma’r grŵp cyntaf i gael ei ddileu neu ei dargedu neu ei ddinistrio. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer, ers 1948 gyda sefydlu’r unbennaeth gomiwnyddol,’ meddai Timothy Cho, ffoadur o Ogledd Corea sydd bellach yn gweithio i Open Doors fel llefarydd y rhanbarth. ‘Mae’r gyfraith newydd hon yn dod â thon newydd o erledigaeth yn ei sgil. Maen nhw’n ceisio dod o hyd i unrhyw un sydd wedi dod dan ddylanwad deunyddiau crefyddol.’ Wrth i Cho gyflwyno’i dystiolaeth a’i hanes yn y carchar i fudiad newyddion Cristnogol Premier, dywedodd: ‘Dim ond un person wedi cael cyfarfyddiad â Duw sydd ei angen er mwyn lledaenu’r Efengyl. Dychmygwch wlad heb ffonau symudol na rhyngrwyd, ond lle mae gennych chi gymuned ddynol. Dyna sut y gall y stori gael ei throsglwyddo o’r naill i’r llall ... Maen nhw’n gwybod y gallan nhw gael eu lladd, ond maen nhw’n gwybod hefyd na fydd eu ffydd yn cael ei dinistrio.’ Er ei bod yn anodd gwybod faint o Gristnogion sydd yng Ngogledd Corea, mae Open Doors yn amcangyfrif bod yna 400,000 yno, a bod rhwng 50,000 a 70,000 ohonynt mewn gwersylloedd llafur. Er mwyn cael golwg ar y deunyddiau i’w lawrlwytho neu eu harchebu, gellir mynd at wefan y mudiad: www.opendoorsuk.org/ persecution/world-watch-list/

Adnoddau Cymraeg

Cafwyd addewid y bydd y mudiad yn paratoi llyfryn y Rhestr Wylio Fyd-eang eto eleni yn Gymraeg ac y bydd ar gael yn fuan. Bydd yn ein hysbysu am sefyllfa’r aelodau hynny o’n teulu Cristnogol sy’n cael eu herlid ledled y byd ac yn rhoi arweiniad inni wrth weddïo drostynt.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.