Dau Dabernacl yn sefydlur Parchedig Dylan Rhys Parry

Er bod y Parchedig Dylan Rhys Parry wedi bod yn weinidog ar Ofalaeth Glannau Ogwr ers dros flwyddyn, ac wedi hen ennill ei le yn ein plith, methwyd hyd yma cynnal cyfarfod i’w sefydlu yn swyddogol. Ond o’r diwedd, ar nos Iau, 9 Mehefin, daeth cyfle i ni ddathlu’r achlysur o gael gweinidog newydd. Fe ddaeth cynulleidfa dda ynghyd i’r Tabernacl Pen-y-bont gan gynnwys nifer oedd wedi teithio o’r gogledd. Wedi’r rhannau arweiniol yng ngofal y Parchedig Hywel Wyn Richards a Tom Price, cafwyd eitem gerddorol gan Kevin a Sheila Adams. Y cyn-weinidog, y Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedd â gofal sefydlu Dylan, gyda chymorth Hugh Thomas a’r Parchedig Ronald Williams (gweinidog Dylan yng Nghaernarfon). Croesawyd ar ran y ddau Dabernacl gan y Parchedig Robin Samuel a Tom Price. Cafwyd neges bwrpasol gan y Parchedig Carwyn Siddall, ffrind agos i Dylan, ac roedd Carwyn hefyd wedi cyfansoddi emyn yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Wedi’r oedfa, roedd cyfle i gymdeithasu a mwynhau lluniaeth ysgafn yn y neuadd. Diolch yn fawr i bawb a weithiodd yn galed i sicrhau llwyddiant y noson, ac edrychwn ymlaen at arweiniad Dylan am flynyddoedd i ddod. Wrth groesawu Dylan, cyflwynodd Tom ddau englyn a luniwyd ganddo’n arbennig ar gyfer yr achlysur. Dyma nhw:

 

Duw welodd ddoniau Dylan, – a’i annog

I weini’n ei winllan.

     I ni rwy ti yn llawn tân,

     Â’i ynni yn dy anian.

 

Ni’n dwli ar ein Dylan,– un dawnus

Un doniol, diffwdan,

     Cerddor, hoff o’i gôr a’i gân,

     Yn glir, just cofia’r glorian.

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.