Dathlu 200 mlynedd eglwys Pencae, Llanarth, Ceredigion
Cafwyd gwasanaeth arbennig iawn yng nghapel Pencae ar ddydd Sul 15 Mehefin, sef gwasanaeth i ddathlu 200 mlynedd yr eglwys, 1825–2025. Croesawyd pawb i’r oedfa gan Mrs Enid Jones a chymerwyd at y rhannau arweiniol gan gynaelodau ysgol Sul Pencae. Cafwyd hefyd eitemau penigamp gan blant presennol yr ysgol Sul. Traddodwyd anerchiad pwrpasol ac amserol gan Mr Nigel Davies.
Paratowyd cacen arbennig ar gyfer yr achlysur ac fe’i torrwyd gan athrawon yr ysgol Sul sef Elin, Enid, Ruth a Catrin. Ar ddiwedd yr oedfa a mwynheuodd pawb ddished o de a darn o’r gacen ddathlu flasus. Cafodd y plant de parti bach hwyliog hefyd! Braf oedd gweld y capel yn llawn ar gyfer yr oedfa a hyfrydwch oedd gallu edrych ar hen luniau a dogfennau gan hel atgofion a chael clonc ar ddiwedd y gwasanaeth. Roedd cyfle hefyd i brynu cwpanau’r dathlu ac os oes diddordeb gan unrhyw un i brynu un, cysylltwch â Mrs Mineira Davies neu unrhyw un o swyddogion yr eglwys. Maent ar werth am £10 yr un. Diolch i Mrs Enid Jones am baratoi’r gwasanaeth ac i Mrs Elin Morgan am ei gwaith wrth yr organ. Diolch hefyd i bawb fu ynghlwm â pharatoi a gweini’r lluniaeth.
Ar 14 Medi cynhelir Cymanfa’r Dathlu yng nghapel Pencae a bydd croeso cynnes i bawb.
Catrin Bellamy-Jones
Cân Dathlu Daucanmlwyddiant Eglwys Pencae
Amser dathlu
Croeso mawr i chi,
Daucanmlwyddiant
Yn ein capel ni,
Canu emyn
Gwna pob plentyn
Diolch wnawn i Ti.
Plant bach hapus
Sy’n dod i’n hysgol Sul
Gweddi’r Arglwydd
Ac yna tynnu llun,
Stori Feiblaidd
Yn rheolaidd
Diolch wnawn i’r Iôr.
Cwpan Denman
Siôn Corn a pharti braf.
Cwis ac adnod
A thrip bach yn yr haf,
Diolch Iesu
Am ein caru
Ysgol Sul Pencae.
Ar y dôn ‘Braf yw Bwyta’
Geiriau: Enid Jones ac Esyllt Bryn
Capel Pencae
Ar gyrion pentref Llanarth
Mae cwmwd bach Pencae,
Ffermydd, man addoli
A dwrned clòs o dai.
Ar dir a oedd yn perthyn
I fferm Pant’rhendy gynt
Saif capel Pencae’n gadarn
Wyneba rhu y gwynt.
Evan James y ffermwr
A roes y llecyn ’ma –
Dwy ganrif yn ôl bellach
Codwyd capel yn y ca’.
 ysgrif rwym o hir barhad
A hynny am isel bris.
Dyma’r geiriau ar ei fedd
Tu allan wrth y gris.
O gylch yr hen adeilad
Mae caeau breision, hardd
Hen enwau sydd yn para,
A’u henwyd hwy gan fardd?
Cae Eithin sydd â’i gloddiau
Yn aur fel machlud ha’,
Cae Llwybrau a Chae’r Odyn
Rho borthiant ffres i’r da.
Cae Gwair, Tŷ Cwrdd a Brynfa,
Brynhendy yn ei dro
Llwynteg a Waun Bryngolau,
Rhaid cadw rhain ar go’.
Ac uwchlaw y cyfan yma
Fe saif ein capel clud,
Dy ddrysau sy’n agored –
A chroeso sydd o hyd.
Wrth edrych tua’r gorwel
A thonnau gwyllt y môr,
Trai a llanw bywyd
Dawn fynych at dy ddôr .
Yma, fe gawn gysur
Ac o fewn dy bedwar mur
Addolwn, molwn, trown at Dduw
A phrofi’i gariad pur.
A heddiw, yma, dathlwn,
Er holl helbulon byd
Bod capel Pencae’n herio’r drefn,
Dwy ganrif, a saif o hyd.