Mae Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl brys mewn ymateb i’r argyfwng bwyd sy’n gwaethygu yn Nwyrain Affrica. Bydd Apêl Argyfwng Newyn Dwyrain Affrica yn codi arian i gefnogi gwaith partneriaid yr elusen yn Kenya ac Ethiopia.

Yn dilyn y sychder gwaethaf mewn 40 blynedd, mae miliynau o bobl yn Nwyrain Affrica yn wynebu bygythiad newyn a marwolaeth. Mae’r sefyll wedi gwaethygu oherwydd yr argyfwng hinsawdd, pandemig Cofid a’r rhyfel yn Wcráin. Mae partneriaid lleol Cymorth Cristnogol eisoes yn gweithio yn y rhanbarth, yn  cefnogi dros 300,000 o bobl, ond mae mwy angen ei wneud er mwyn achub bywydau a rhoi gobaith i bobl am ddyfodol gwell.

Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn Ethiopia, er enghraifft, gydag arian gan UNOCHA, yn cynnig cefnogaeth fydd yn newid bywyd 200,000 pobl a 200,000 o wartheg dros y flwyddyn sy’n dod . Bydd y prosiect yn trin 12 twll turio dŵr ac yn cynnig gofal milfeddygol i’r gwartheg. Bydd dros 500 person yn cael $40 y mis am dri mis i’w helpu i brynu bwyd ac angenrheidiau eraill. Caiff 45,000kg o fwyd anifeiliaid ei ddosbarthu ymysg 450 teulu hynod fregus, fydd yn eu helpu i gadw ei da byw yn fyw.

Yn Kenya, bydd partneriaid Cymorth Cristnogol yn cefnogi 31,500 o bobl sy’n wynebu prinder bwyd. Trwy helpu i drin chwech twll turio dŵr, caiff 30,000 fynediad gwell i ddŵr. Yn ychwanegol bydd 250 teulu bregus yn derbyn £20 y mis mewn arian lleol am dri mis er mwyn iddynt allu prynu bwyd, ffisig a thalu dyledion.

Ond mae angen llawer mwy na hyn wrth i’r rhanbarth wynebu ei sychder gwaethaf mewn 40 mlynedd yn dilyn pedwar tymor yn olynol lle bu’r glaw fethu. Mae 18.4 miliwn o bobl ar draws Kenya, Ethiopia a Somalia unai’n methu prydau bwyd neu’n byw ar ddeiet llai amrywiol. Mae 7.1 miliwn o blant yn dioddef o ddiffyg maeth yn Nwyrain Affrica, yn cynnwys 2 filiwn sy’n ddifrifol felly.

Mae diffyg dŵr yn golygu fod llawer o bobl yn gorfod cymryd camau difrifol er mwyn goroesi, yn cynnwys gadael eu cartref yn llwyr er mwyn chwilio am fwyd, dŵr a phorfa i’w da byw. Yn ogystal â’r sychder yn ei gwneud hi’n anodd tyfu cnydau, mae’r gost o brynu bwyd wedi codi’n sylweddol. Mae effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi bod yn ddramatig ar y rhanbarth, sy’n mewnforio 90% o’u grawn o’r ddwy wlad.

Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru:

‘Mae’r sefyllfa a wynebir gan filiynau o bobl Dwyrain Affrica'n echrydus. Mae’r argyfwng hinsawdd wedi bod yn effeithio’r tywydd yno am beth amser ond mae effaith y rhyfel yn Wcráin a Chofid-19 yn golygu fod argyfwng go iawn yn datblygu yno.

‘Trwy gefnogi gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol ar y ddaear trwy’r apêl brys hon, gallwn ddod â gobaith i sefyllfa sy’n gwaethygu. Rydym yn gwybod pa mor hael y mae pobl Cymru wedi bod gyda phobl Wcráin yn ystod eu hargyfwng. Mae’r rhai sy’n wynebu newyn yn Nwyrain Affrica nawr angen inni sefyll mewn undod gyda hwy.’

Gallwch gyfrannu at Apêl Argyfwng Newyn Dwyrain Affrica trwy fynd i wefan Cymorth Cristnogol: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/east-africa-hunger-crisis-appeal

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.