Y newyddion diweddaraf o Eglwys Unedig Llanfair, Pen-rhys

Roedd y Pasg yn brysur iawn yn Llanfair gyda’n merched ifainc – Carly sy’n 14, Maddie sy’n 17, Jade sy’n 18, Tyra sy’n 18 a Yasmin sy’n 20 – yn arwain ein hoedfaon nifer o ddiwrnodau yn ystod yr Wythnos Sanctaidd. Ar nos Iau Cablyd, aeth cwmni ohonom i lawr y tyle i Eglwys y Drindod Sanctaidd ym mhentref Pendyrys i gydaddoli â’r Tad David Jones a’i gyfeillion.

Oherwydd y glaw, fe drefnon ni’r helfa wyau tu fewn yn hytrach na tu fas y bore canlynol, ond aethon ni ar y Bererindod i Ffynnon Fair ar ddydd Gwener y Groglith, er gwaetha’r tywydd gwlyb. Roeddwn ni gyd yn falch i weld yr haul yn tywynnu ar fore Sul y Pasg i fwynhau ein taith gerdded i fyny’r mynydd tu ôl i Ben-rhys, a ’nôl i’r caffi ar gyfer wyau wedi berwi a dishgled o de ac yna oedfa Sul y Pasg yn y capel yn y prynhawn. Yn ystod ail wythnos gwyliau’r Pasg, cymerodd deuddeg o’n plant rhan mewn gweithdy ‘parkour’ (dawns) am dri diwrnod gyda pherfformiad o flaen eu teuluoedd yng Nghanolfan Soar, Pen-y-graig ar y trydydd diwrnod.

Gwasanaethu

Enillodd Llanfair wobr gydradd gyntaf cystadleuaeth Gwasanaethu’r Gymuned 2025 a drefnwyd gan y Gynghrair Gynulleidfaol ledled Cymru, yr Alban a Lloegr. Teithiodd Sharon Rees i’r cyfarfod blynyddol yn Nottingham ym mis Mai i dderbyn y tlws ar ran Llanfair.

Cymorth Cristnogol

Fel arfer, roedd Wythnos Cymorth Cristnogol yn fwrlwm yn Llanfair yn ystod mis Mai gydag oedfa’r Sul, dosbarthiadau o blant o ysgol gynradd Pen-rhys yn dod i’r capel ar foreau Llun i ddysgu sut mae Cymorth Cristnogol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau Aurelia a’i chymdogion yn Guatemala. Fe aeth y casglu o dŷ i dŷ yn arbennig o dda gyda chyfle i gynnal sgwrs a derbyn rhoddion wrth fynd o gwmpas y gymuned. Gwnaeth ein merched ifanc smoothies ffrwythau gyda’n ffrind Anne i werthu yn y caffi – blasus iawn. Yn ogystal â hynny, cafodd grŵp ohonom ein noddi i wneud ‘her camau’ yn ystod y mis, dros 10,000 cam y diwrnod!

Sharon Rees

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.