Hysbyseb Swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol (Dwyieithog - Cymraeg/Saesneg)

Lleoliad: Hybrid (Gweithio o Adref ac yn y Swyddfa yng Nghaerdydd)

Math o Gytundeb: Rhan-amser (hyd at 15 awr yr wythnos)

Dyddiad Cychwyn: Hydref 1, 2025

 

Mae'r Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill (CARE – yr Elusen ar gyfer Dibyniaeth, Adferiad a Galluogi) yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol ymroddedig i gynorthwyo ein Prif Weithredwr a sicrhau gweithrediad llyfn i’n helusen.

Prif gyfrifoldebau:

- Darparu cymorth gweinyddol, gan gynnwys rheoli dyddiaduron a negeseuon e-bost.

- Cadw cofnodion yn unol â pholisïau diogelu data.

- Cynorthwyo gyda dogfennaeth cyfarfodydd a threfniadau digwyddiadau.

- Cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gofynion:

- Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

- Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf.

- Profiad mewn swydd weinyddol yn ddymunol.

- Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus dderbyn datgeliad DBS manwl a dilyn prosesau gwirio eraill. 

- Mae gofyniad galwedigaethol iaith Gymraeg yn berthnasol ar gyfer y swydd hon.

 

Sut i wneud cais:

Gofynnwch am ffurflen gais trwy anfon e-bost at wynford@recover-council.org neu ffoniwch Wynford ar 029 2063 0993 neu 07796464045.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af Medi 2025 am 4yp. 

Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned!

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.