Pum canrif o hanes yn Eglwys y Tabernacl, Pen-y-bont...

Mae gwreiddiau’r Tabernacl yn mynd yn ôl tua 500 mlynedd i’r ‘Hen Dŷ Cwrdd’, a sefydlwyd ar gyrion yr hen dref. Ymhen 100 mlynedd roedd cynulleidfa’r Hen Dŷ Cwrdd wedi croesi’r afon Ogwr ac wedi sefydlu’r Tabernacl yng nghanol tref Pen-y-bont. Er y bu ambell newid lleoliad dros y blynyddoedd mae’r Tabernacl wedi para i fod yng nghanol y dref hyd at heddiw.

Mae’r adeilad presennol yn gymharol newydd, wedi ei agor yn swyddogol ym mis Mai 1989. Mae’n adeilad modern, addas i gynnal pob math o ddigwyddiadau. Mae wedi ei gysylltu â hen Neuadd Y Tabernacl, adeilad deulawr, amlbwrpas, sy’n gartref i’r Ysgol Sul yn y llofft, tra bod Ysgol Feithrin yn cwrdd yn ystod yr wythnos lawr llawr. Defnyddir yr adeiladau gan fudiadau a chorau lleol hefyd.

Fel llawer tref arall gwelodd Pen-y-bont newidiadau mawr dros yr hanner canrif ddiwethaf. Codwyd stadau tai enfawr, archfarchnadoedd a chanolfannau siopau ar gyrion y dref gan ddenu’r siopwyr o’r canol. Symudwyd y farchnad anifeiliaid  prysur i’r Bontfaen, gam amddifadu’r  hen dref fach, lle’r oedd pawb bron yn nabod ei gilydd, o’i chymeriad.  Diflannodd nifer o’r adeiladau urddasol, ynghyd a’r hen siopau bach annibynnol ac mae’r ychydig gapeli sydd ar ôl wedi eu hynysu i raddau helaeth ynghanol siopau elusen a bargeinion, tafarndai, llefydd bwyd parod a chymdeithasau adeiladu.

Serch hynny, gyda Tabernacl yr unig gapel Cymraeg sydd ar ôl yn y dref a’r cyffiniau, gwelwyd Cymry Cymraeg o ardal Y Bontfaen a Bro Morgannwg yn cael eu denu yno ac o gyplysu hynny gyda thwf addysg Gymraeg, gellir dweud bod y capel yn parhau i fod yn gymharol lewyrchus gyda nifer o deuluoedd ifanc yn ymuno yn yr oedfaon ynghyd â’r gweithgareddau eraill.

Mae gan y Tabernacl draddodiad cyfoethog, aml-weddog sy’n para hyd heddiw. Bu cerddoriaeth yn bwysig, ac mae Côr y Tabernacl yn trefnu cyngherddau safonol o gerddoriaeth glasurol a phoblogaidd yn yr adeilad ar hyd y flwyddyn. Bu cyfraniad y merched yn allweddol dros y blynyddoedd ac mae hynny’n parhau drwy’r Grŵp Pwyth a Phaned sy’n cyfarfod yn rheolaidd i gymdeithasu wrth wneud pob math o grefftwaith ac yn codi arian at achosion da. Hefyd bu aelodau’r Tabernacl yn amlwg yn cefnogi gwaith elusennol, ac mae hynny’n parhau mewn casgliadau ymadawol misol i fudiadau lleol, casgliadau rheolaidd i waith Cymorth Cristnogol, elusennau Cenedlaethol eraill ac apeliadau’r Undeb a chefnogaeth ymarferol i’r Banc Bwyd.

Er bod 500 mlynedd yn ein gwahanu ni oddi wrth yr ‘Hen Dŷ Cwrdd’, rydym yn dal i gynnig aelwyd ysbrydol, man cyfarfod lle gall pobl glywed am gariad diderfyn Duw yn Iesu Grist, a chael eu grymuso drwy addoliad a chymdeithas i dystio i’r cariad hwnnw a’i rhannu yn eu bywydau dyddiol.

 

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.