Llongyfarchiadau mawr iawn i Arfon Jones ar ennill gradd DD, er anrhydedd, gan Goleg y Brifysgol Bangor. Anrhydeddwyd Arfon gyda’r ddoethuriaeth – ar ddydd Llun 4 Gorffennaf – oherwydd ei waith eithriadol yn cyfieithu’r Beibl i Gymraeg dros gyfnod o 17 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw gweithiodd yn ddygn, weithiau ddydd a nos, yn ymaflyd yn fyfyrgar a gweddïgar dros adrannau o’r Beibl a hynny mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Beibl a charedigion Gobaith i Gymru. Y mae ganddo’r ddawn arbennig i ymdrin â manylion a chanolbwyntio yn ddiflino am gyfnodau hir. A oes unrhyw un yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n fwy cyfarwydd â gair Duw ac wedi ei ddarllen mor aml ag ef? Go brin. Gweledigaeth Arfon i gychwyn oedd y byddai’r testun yn ymddangos ar y we yn unig, ond yn y diwedd ildiodd i’r galw cynyddol fu i’w gyhoeddi fel cyfrol bapur.

Daeth Arfon i ffydd ar ddiwedd ei arddegau o dan arweiniad dyner ei weinidog y Parchg Arthur Jones a thrwy gydol ei oes, trwy ddrycin a hindda bu’n ffyddlon i’r Arglwydd ac i waith Ei Deyrnas. Fel yn hanes y proffwyd Jeremeia cynheuwyd tân yn ei esgyrn i gyhoeddi’r Efengyl achubol doed a ddelo. Ers degawdau y mae’r Arglwydd wedi rhoi baich enfawr ar galon Arfon dros ieuenctid a phobl ifanc Cymru. Ei ddyhead mawr yw gweld adnewyddiad ysbrydol ymhlith ein hieuenctid gan weld miloedd yn dod i ffydd yn yr Arglwydd Iesu.

Y mae wedi gweithio i’r perwyl hwn trwy gydol ei oes gan weddïo, pregethu, annerch, trafod, trefnu gweithgareddau, paratoi llenyddiaeth ac adnoddau a chyfieithu caneuon Cristnogol ymhlith pethau eraill. A hyn yn bennaf a’i hysgogodd i wneud cyfieithiad newydd o’r Beibl mewn Cymraeg cyfoes. Sylweddolai bod ieithwedd y Beibl Cymraeg Newydd yn anodd i ieuenctid ac o ganlyniad fod llawer ohonynt yn defnyddio Beiblau Saesneg. Y mae beibl.net wedi llenwi bwlch mawr yn ein llenyddiaeth Gristnogol ac wedi agor gair Duw i lawer o bobl. Un o’r datblygiadau annisgwyl yw bod rhai Cristnogion yn eu 80au a’u 90au yn defnyddio beibl.net gan ddweud ei fod wedi goleuo rhannau tywyll o’r ysgrythur gan eu gwneud yn llawer mwy dealladwy, yn enwedig yn yr Hen Destament.

Dywed Arfon yn gyson nad traddodiad yw Cristnogaeth ond perthynas fyw, rhwng Duw a’i bobl trwy yr Arglwydd Iesu. Fe ddyfynna yn aml bennill Dafydd Morris:

 

N’ad im fodloni ar ryw rith

o grefydd, heb ei grym,
  ond gwir adnabod Iesu Grist
  yn fywyd annwyl im.

 

Y mae Arfon a’i deulu, Rachel, Carys, Seren a Ryan yn aelodau gwerthfawr yn eglwys Annibynnol Ebeneser, Caerdydd, ers degawdau ac y mae wedi bod yn fraint aruthrol ei gael yn gydaelod a diacon ymroddgar yn ein plith.

Felly, llawenhawn gydag ef yn ei anrhydedd. Diolchwn i’r Arglwydd amdano, am ei gyfeillgarwch a’i ostyngeiddrwydd ac am y gwaith a gyflawnodd yn enwedig yn y Gymry Gymraeg tros ei Waredwr, Iesu Grist.

Alun Tudu

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.