Capel Coffa Cyffordd Llandudno.

Yn dilyn yr oedfa fore Sul 8 Mai 2022 cafwyd paned a chacen i ddathlu carreg filltir yn hanes un o blant yr eglwys, sef y Parchedig Iwan Llewelyn Jones, sydd yn awr yn weinidog ym Mhorthmadog a’r cylch. Traddododd Iwan ei bregeth gyntaf yn y Capel Coffa, Cyffordd Llandudno union bedwar deg mlynedd yn ôl, ym mis Mai 1982, pan oedd ond yn ddwy ar bymtheg oed ac yn ddisgybl ysgol ar y pryd.

Daeth yn aelod o’r eglwys sy’n cyfarfod yn y Capel Coffa pan oedd yn dair ar ddeg oed. Dyna pryd y daeth ei dad sef y diweddar Barchedig Gwyn Jones yno fel gweinidog i’r Arglwydd Iesu o eglwys Bethel, Cemaes, Môn. Felly mae’n dilyn yn ôl troed ei dad, a dywed mai ei dad a’r diweddar Barchedig Brifathro R. Tudur Jones, Bala Bangor, a fu’n ddylanwad mawr arno.

Yn y llun fe welir y Parchg Iwan Llewelyn Jones a dau o ddiaconiaid Capel Coffa, Mr Sam Owen, a rannodd rai o’i atgofion, a Mrs Catherine Watkin a ddywedodd ychydig o’i hanes. Cyflwynwyd rhodd fechan gyda llongyfarchiadau a dymuniadau gorau Capel Coffa i’r Parchedig Iwan Llewelyn Jones wrth iddo ddathlu pedwar deg o flynyddoedd ers dechrau pregethu’r Efengyl. Diolchwn iddo am ei weinidogaeth gyfoethog trwy’r holl flynyddoedd

Julie Jones

 

(Hoffem fel tîm golygyddol Y Tyst ychwanegu ein llongyfarchiadau gwresog i Iwan – sy’n rhan o’r tîm – ar gyrraedd y garreg filltir nodedig hon yn ei weinidogaeth a phob bendith i’r dyfodol. Gol.)

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.