Neges Basg yr Ysgrifennydd Cyffredinol

Risus Paschalis – Chwerthiniad y Pasg

Un o dasgau’r Pasg i bregethwyr yr Oesoedd Canol, oedd cymell eu cynulleidfaoedd i chwerthin, arfer oedd â’i wreiddiau’n ddwfn yn niwinyddiaeth y Tadau cynnar fel Awstin Sant, Gregor o Nyssa, a Ioan Chrystostom, a ddatblygodd y syniad i Dduw chwarae tric ar yr Un drwg wrth adael iddo fwynhau ei fuddugoliaeth dybiedig dros Iesu am gwta ddeuddydd, dim ond i weld ei foddhad a’i falchder yn cilio fel tarth yng ngoleuni gwawr y trydydd dydd, gan ei amddifadu’n derfynol o bob llawenydd a dedwyddwch sy’n nodweddu unrhyw wir oruchafiaeth. Newyddion da yn wir, i ennyn llawenydd a gorfoledd yn y saint ac achos iddynt ie, chwerthin.

Wrth gloi’r bennod ar yr atgyfodiad yn ei gyfrol Menter Ffydd, dyfynna Dr Vivian Jones linell o eiddo’r bardd Gwyddelig, Patrick Kavanagh, i gyfleu ysbryd rhyddhaol neges y Pasg: ‘A laugh freed for ever and ever.’ A pha ddelwedd well o obaith rhyddhaol y Pasg, yn ôl Vivian, na ‘chwerthiniad tragwyddol’?

Os mai prin yw’r sôn am chwerthin yn y Beibl, nid felly’r cyfeiriadau at lawenydd, llawenydd sy’n rhwym o dorri allan ar dro yn chwerthiniad iachus. Mae’n anodd gweld sut y gall hynny beidio â digwydd wrth ddarllen yr emyn Pasg cyntaf, sy’n enghraifft eithriadol grefftus o gomedi i gyfleu’r gwirionedd bod angau wedi ei drechu.

 

Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.

O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?

O angau, ble mae dy golyn?

 

Ofn marwolaeth yw arf y gormeswr ac nid oes lle yn y byd, na man yn ein bywydau, ble na phrofir ei rym a’i raib. Bygwth bywyd a wna a’i ddifa, ar faes y gad, trwy wleidydda ysgeler, mewn calonnau hunanol a meddyliau caeedig, di-hid o fuddiannau pobl eraill.

Y mae neges y Pasg yn ein dwyn wyneb yn wyneb â’r Crist atgyfodedig, Iesu o Nasareth, ‘a drodd ein tristwch ni yn gân a dawns, ein dagrau oll yn ffrydiau o lawenydd,’ chwerthiniad tragwyddol dilynwyr Iesu nad oes tewi na dofi arno. Felly, gadewch inni fod yn ‘gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan [ein] bod yn gwybod nad yw [ein] llafur yn yr Arglwydd yn ofer.’

Pasg hapus i chi. 

 

Parchg Dyfrig Rees

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.