Anerchiad cofadwy Cadeirydd newydd

Dwyn i gof tri phennawd o bregeth gan y Parchg D. Rhys Thomas tua deugain mlynedd yn ôl wnaeth Rhiannon Mathias, Bryn Iwan yn ei hanerchiad wrth ddod i gadair Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin mewn Cwrdd Chwarter ym Mlaen-y-coed ar 24 Tachwedd.

 

Dyn heb Dduw yn anobeithiol,

Duw heb ddyn yn annigonol,

Duw â dyn yn anorchfygol.

‘Mae’n heglwysi ni, ein cymunedau ni, ein gwlad a’r byd wedi newid cymaint ers i fi glywed y bregeth yna, yn enwedig yn ystod y pump neu chwe blynedd diwethaf,’ meddai. ‘Ond mae neges yr Efengyl yn aros yr un, a’n cyfrifoldeb ni Gristnogion yw ceisio cael y neges yna drosodd i bobl sydd heb glywed bron dim amdani heddiw.’

Afiechyd meddwl

Mynegodd Rhiannon ofid mawr am yr holl bobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl. ‘Pobl hŷn, canol oed, ieuenctid, plant yn eu harddegau a phlant cynradd hyd yn oed. Wedi canmol y we, allwn ni ofyn a yw’r dyfeisiau bach y maen nhw’n trin yn eu dwylo yn andwyol? Ydyw disgwyliadau byd addysg fod pob plentyn i gyrraedd yr un man ar yr un pryd yn andwyol? Ydyw’r pethau cas ar y teledu’n andwyol hefyd? Ac ydyw delwedd wedi mynd yn rhy bwysig i blant ifanc iawn?’

Peidio byth ag anobeithio

Wrth ganmol gwaith blaenllaw y Cyfundeb yn mynd i’r afael a materion sy’n effeithio ar ein bywydau ni heddiw, tynnodd Rhiannon Mathias sylw at ymateb un cyd-aelod i’r daflen Beth i wneud pan fod eglwys yn cau? Roedd yr aelod hwnnw wedi dweud ‘Onid gweld cwpan hanner llawn y dylem, ac nid cwpan hanner gwag?’ Er bod sefyllfa’r eglwysi wedi newid, ni ddylem fod yn negyddol, meddai. Mae wastad gobaith. Adroddodd stori wir am ferch yn ei harddegau ’nôl yn niwedd y 1940au, gafodd salwch blin iawn. Ofnwyd na fyddai’n tynnu trwyddi. Fe briododd yn 26 oed, ac ar achlysur dathlu ei phriodas aur, fe ddywedodd hi wrth Rhiannon iddi glywed fod rhywun wedi holi, ‘Pam fod honna’n priodi? Fydd hi ddim byw’n hir.’ Eto, buodd hi fyw am 68 mlynedd wedi iddi briodi.

Gwaith mawr y criw bach

Cyfeiriodd Rhiannon at erthygl am hanes y proffwyd Habacuc. Roedd trais, creulondeb, dioddefaint ac ofn yn gyffredin yn ei ddydd, ac roedd pobl yn holi cwestiynau am Dduw. ‘Felly mae yng Nghymru heddiw. Ein hargyfwng mwyaf yw argyfwng ffydd – argyfwng credu, Dyn heb Dduw. Ond rhaid i ni gyd wneud rhywbeth

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.