Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, oedd y gŵr gwadd yng Nghwrdd Chwarter Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin yn Nebo, ger Llanpumsaint fis diwethaf. Gyda daliadau blaengar iawn o ran moesoldeb a hawliau’r iaith Gymraeg, roedd hi’n gysur i bawb a fu yno fod plismona ardal Dyfed-Powys yn y fath ddwylo diogel a phrofiadol.

 

Pwy yw’r Prif Gwnstabl?

Brodor o bentref Meinciau yw Dr Richard Lewis. Graddiodd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n hyfforddi i fod yn athro ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant cyn dilyn camre ei dad i Heddlu Dyfed-Powys yn y flwyddyn 2000, gan godi trwy’r rhengoedd i safle Dirprwy Prif Gwnstabl cyn cael ei benodi’n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn 2018. Yn gynharach yn ei yrfa fe enillodd ysgoloriaeth Fulbright i Brifysgol Pennsylvania, gan dreulio cyfnodau gyda’r heddlu yn Dallas, Seattle a gyda’r NYPD yn Brooklyn. Cafodd ei benodi’n Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed–Powys ym Mehefin 2021. Ar ôl ennill doethuriaeth mewn moeseg ym Mhrifysgol Caerfaddon, mae Dr Lewis bellach yn arwain lluoedd heddlu Cymru a Lloegr mewn materion moesegol.

Delio â chyffuriau

‘Maddeuant’ oedd thema rhan agoriadol ei anerchiad i’r cwrdd chwarter yn Nebo. Bu’n sôn am berson a alwodd yn ‘Andy’ a wnaeth argraff fawr arno tra roedd gyda’r heddlu yn Cleveland. Roedd y dyn yma’n gaeth i gyffuriau, ac yn cymryd rhan mewn cynllun yn Middlesborough lle’r oedd addicts yn cael eu trin fel cleifion, yn hytrach na throseddwyr. Cymryd cyffuriau er mwyn ymdopi â’i sefyllfa yr oedd Andy, meddai, a dylid maddau iddo am hynny. Byddai pobl oedd ar y cwrs meddyginiaethol yn cael ei dos o heroin yn ddyddiol, a hynny mewn lleoliadau diogel. Cost y cynllun oedd miliwn o bunnau’r flwyddyn, ond y canlyniad oedd llai o droseddu gan bobl a fyddai’n dwyn arian i dalu am gyffuriau. 50 mlynedd ers dechrau’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘rhyfel yn erbyn cyffuriau’ does dim wedi newid, meddai Richard Lewis, felly dylid mabwysiadu dulliau gwahanol, megis yr un yn Middlesborough.

 

Trais yn y cartref

Ymhlith materion pwysig eraill sydd angen delio â hwy mae trais yn y cartref, meddai Dr Lewis. Nid yw gosod nod i dorri ar y fath drais ‘hyn a hyn’ y cant yn ddigon da, meddai, y nod yw dileu trais domestig yn gyfan gwbl. Dylid cofio bod angen delio â’r rhai sy’n treisio, nid yn unig y troseddwyr.

 

Cymraeg i bawb

Aeth Dr Lewis ymlaen i ddweud ei fod am sicrhau fod pawb sy’n gweithio i Heddlu Dyfed-Powys yn medru siarad Cymraeg i lefel benodol. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, ond roedd yn benderfynol o’i wireddu gan fod hawl gan y cyhoedd i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhen amser, Heddlu Dyfed-Powys fydd y corff cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i sicrhau hyn, meddai. Ychwanegodd y byddai’n hoffi gweld un heddlu i Gymru gyfan, yn hytrach na’r pedwar llu presennol.   

Diolch am y dydd

Wrth ddiolch i’r siaradwr gwadd, fe nododd Elonwy Phillips ei bod hi’n beth braf cael Cymro Cymraeg yn Brif Gwnstabl ac yn rhoi’r fath arweiniad. Fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James ddiolch am holl weithgareddau’r dydd, i aelodau Nebo am eu croeso, i’r swyddogion, ac i bawb a wnaeth y diwrnod yn un llwyddiannus, gan nodi mai dyma’r tro cyntaf ers dechrau’r cyfnod clo i’r cyfundeb gynnal dau gyfarfod wyneb yn wyneb.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.