Wrth ddathlu gyda’n gweinidog y Parchedig Carys Ann, achubwyd ar y cyfle hefyd i gofio bod eglwys Pisgah, Talgarreg yn 200 oed. Bwriadwyd ddathlu hyn yn Hydref 2021 ond roeddem mewn cyfnod clo. Trwy ddefnydd y sgrin gwelwyd lluniau amrywiol o’r cysylltiad a fu rhwng capel Bwlchyfadfa a Pisgah nes iddynt wahanu a sefydlu dwy eglwys o ddau enwad gwahanol yn 1821. Gan Lloyd Jones y cafwyd yr hanes manwl iawn o’r dechreuadau yn hanes sefydlu Capel Pisgah.

Ym mis Mawrth roedd y Gweinidog i fod cael y dathliadau yma, ond fe aeth hi’n fis Mai oherwydd cyfnod prysur y ffermwyr yn wyna. Daeth y Sul hir–ddisgwyliedig ar Fai 8, a fu’n Sul pwysig iawn yn hanes Capel y Wig, Llangrannog; Pisgah, Talgarreg; a Phantycrugiau, Plwmp yng Ngorllewin Ceredigion, sef dathlu 30 mlynedd gwasanaeth ein gweinidog y Parchg Carys Ann B.A. a ddaeth atom yn 1992.

Cyfarchwyd y Parchg Carys Ann gan y geiriau hyn o’r eiddo’r bardd Jon Meirion:

 

                               A’r oed fel tae ar adain – a rhinwedd

                               arweiniad i’w olrhain;

                             nawdd cynnes er lles i’w llain –

                              daw o’i her Duw i’w harwain.    

           

 

Cymerwyd at y gwasanaeth trwy gymorth PwyntPwer gan ein gweinidog, a fu’n edrych yn ôl dros ei chyfnod gyda ni gan gofio iddi fod yn weinidog Capel Crannog hefyd tan ei ddatgorffori yn 2001. Diolchwn i’n gweinidog am iddi aros a gwasanaethu yr eglwysi cyhyd. Pan ddaeth atom i’r cylch hwn, roedd hi’n  barod wedi bod yn gwasanaethu tair eglwys arall ers pum mloynedd – sef Hawen, Rhydlewis; Bryngwenith, Henllan; a Glynarthen. Gwerthfawrogir bob cydweithio a phob gwasanaeth a gafwyd dros 30 mlynedd. Pob bendith a rhwyddineb eto am flynyddoedd maith i’n gweinidog a’i phriod Maldwyn, sydd wastad yn gefnogol, a’n dymuniadau gorau iddo ef hefyd ar gael ei benodi yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.

 

Diolch i aelodau eglwys Pisgah am eu hadroddiad a ymddangosodd yn Y Tyst.

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.